Cyfarfod Cyffredinol
Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Cyffredinol
Cyfarfod Cyffredinol
10.00, dydd Sadwrn, 17 Hydref 2026
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
Fel gyda phob cyfarfod cyffredinol cyflwynir adroddiadau ar waith y mudiad dros y flwyddyn a fu, ac etholir swyddogion i wasanaethu ar y Senedd am flwyddyn, sef y corff sy'n rheoli gwaith y mudiad dros y flwyddyn.
Trafodir amryw o gynigion hefyd – wedi eu cyflwyno gan aelodau, grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau neu’r Senedd – a’r cynigion fydd yn cael eu pasio fydd yn blaenoriaethu gwaith y Gymdeithas am y flwyddyn sydd i ddod. Gallwch ddarllen cynigion eleni yma.
Mae croeso i bob un o aelodau'r Gymdeithas fynychu'r cyfarfod hwn a phleidleisio. Cysylltwch am wybodaeth bellach neu i archebu lle (gan gynnwys cinio), bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen hon erbyn 5.30, pnawn Gwener, 9 Hydref.