Cyfarfod Grŵp Hawl i'r Gymraeg

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Grŵp Hawl i'r Gymraeg

Cyfarfod o'r Grŵp Hawl i'r Gymraeg

10.00, fore Llun, 9 Tachwedd 2026

Cyfarfod dros Zoom

Y Grŵp Hawl yw'r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg a dros lawer mwy o ddefnydd o'r iaith mewn sefydliadau, cwmnïau a mudiadau.

Dyma'r cyfarfod cyntaf ar ôl Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas felly bydd yn gyfle i drafod a phenderfynu ar flaenoriaethau'r grŵp ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae croeso i unrhyw aelod â diddordeb yn y maes i ymuno â'r grŵp. Os nad ydych chi'n siwr, beth am ddod i'r cyfarfod i weld beth yw beth!

Cysylltwch felly am fwy o wybodaeth neu ddolen i ymuno. 

Pob digwyddiad