Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

10.00, dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2026

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth (SY23 1JH) (gyda chyfle i ymuno arlein hefyd)

Mae'r Senedd yn cyfarfod yn fisol. Dyma'r corff sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith.

Etholir Swyddogion yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn, ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach.

Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion (cyflogedig ac etholedig) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau teithio neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

Pob digwyddiad