Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

Cyfarfod o Ranbarth Gwynedd-Môn

7 o'r gloch, nos Fercher, 4 Tachwedd

Palas Print, Caernarfon (Stryd y Plas, LL55 1RR) ac arlein

Mae croeso i aelodau hen a newydd i gyfarfod rhanbarth Gwynedd-Môn.

Dyma gyfle i drafod materion sy'n effeithio ar y rhanbarth a chyfle hefyd i glywed am ymgyrchoedd cenedlaethol. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn trafod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd, canolfannau data ac ymgyrchoedd lleol. Bydd cyfle i godi unrhyw faterion eraill hefyd. 

Cysylltwch am ddolen neu wybodaeth bellach am y cyfarfod neu waith y rhanbarth. 

Pob digwyddiad