Gigs y Garreg Las - Jess
Cartref > Digwyddiadau > Gigs y Garreg Las - Jess
Gigs Cymdeithas yr Iaith – Eisteddfod y Garreg Las 2026
Jess ♦ Mattoidz ♦ Jonny Panic
Nos Lun, 3 Awst – drysau’n agor am 8yh
Clwb Rygbi Crymych – SA41 3QF
Mae lle i barcio tu ôl i Glwb Rygbi Crymych ond mae Midway Motors yn trefnu bws o'r maes i Grymych (a phentrefi eraill) am 6pm bob dydd am gost o £5. Bydd angen cadw lle trwy ffonio'r cwmni yn uniongyrchol 01239 831267.
Bydd bws yn ôl i Faes Carafanau'r Eisteddfod o Glwb Rygbi Crymych ar ddiwedd pob gig yn cael ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith, bydd hwn ar sail y cytaf i'r felin ac am gyfraniad o £5 ar y noson. Bydd y bws yn mynd yn syth o'r Clwb Rygbi i'r Maes Carafanau. Disgwylir i'r noson orffen am ganol nos.
Trefnir ar y cyd â Fflach Cymunedol.
Nid oes modd prynu tocyn arlein bellach. Mae digon o docynnau ar ôl a byddant ar werth wrth y drws.