Grŵp Dyfodol Digidol

Cartref > Digwyddiadau > Grŵp Dyfodol Digidol

Cyfarfod o'r Grŵp Dyfodol Digidol

7.30, Nos Sul, 1 Tachwedd 2026

Cyfarfod dros Zoom

Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith yw’r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau, amlygrwydd a defnydd y Gymraeg ym maes darlledu, cyfathrebu a thechnoleg.

Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn ffocysu ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran toriadau i'r BBC. Yn wyneb y toriadau hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau ac yn galw unwaith eto am ddatganoli grymoedd darlledu a chyfathrebu i Gymru. Byddwn ni'n cynllunio digwyddiad i gyflwyno'r ddeiseb a chamau nesa'r ymgyrch i ddatganoli grymoedd darlledu.

Rydym bod amser yn chwilio am aelodau newydd i'r grŵp. Os oes gennych brofiad neu ddiddordeb yn y maes, beth am roi cynnig arni? Os nad ydych yn siwr, dewch i un neu ddau o gyfarfodydd i gael gweld beth yw beth. Am fanylion pellach, cysylltwch.

Pob digwyddiad