Pa Ddyfodol i Ysgolion Gwledig

Cartref > Digwyddiadau > Pa Ddyfodol i Ysgolion Gwledig

Pa Ddyfodol i Ysgolion Gwledig?

2.30, pnawn Llun, 3 Awst

Stondin Cymdeithas yr Iaith (rhif 1019-1020), Maes Eisteddfod y Garreg Las

Bydd trafodaeth fer gyda'r Cynghorydd Jean Lewis, ac yna awn ymlaen i Bentre'r Garreg Las, lle bydd presenoldeb gan y cynghorau sir, i geisio atebion.

Pan fu'r Eisteddfod yn Sir Benfro yn 2002, caewyd ysgol wledig Gymraeg Bwlchygroes, a symudwyd y plant i Ysgol Tegryn – yn agos at faes yr Eisteddfod. Mae'r Eisteddfod yn dychwelyd i Sir Benfro eleni, ac mae Cyngor Sir Benfro newydd benderfynu cau Ysgol Clydau, Tegryn.

Ar yr un pryd, mae Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy a Gwynedd wedi bod yn ceisio cau ysgolion gwledig Cymraeg.

Onid oes rhagdyb i fod yn erbyn cau ysgolion gwledig? Be sy'n digwydd?

Rydyn ni wedi gwahodd arweinwyr y tri chyngor sir yn Nyfed i ddod i roi atebion.

Mae'r Cynghorydd Jean Lewis yn gynghorydd sir ar ward Trelech yn Sir Gaerfyrddin, mae wedi gweithio yn Ysgol Clydau a nawr yng nghanol brwydr dros ysgol yn Sir Gâr.

Pob digwyddiad