Rali Troi'r Llanw

Cartref > Digwyddiadau > Rali Troi'r Llanw

Rali Troi'r Llanw

1yp, dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2026

Stadiwm y Traeth — Clwb Pêl-droed Porthmadog

12.00 – Clwb Cymdeithasol yn agor am fwyd a diodydd yn stadiwm Clwb Pêl-droed Porthmadog
13.00 – Adloniant byw gan Cleif Harpwood a chyfeiliant, Yr Anghysur, Y Ddelwedd a Gwyneth Glyn
14.00 – RALI: Mirain Owen yn cyflwyno Dafydd Iwan, Mici Plwm, Siân Howys a mwy. Bydd cynrychiolwyr o gymunedau ledled Cymru'n cael "Munud i alw am weithredu" er mwyn eu cymunedau nhw
15.00 Adloniant yn parhau a'r Clwb Cymdeithasol yn parhau ar agor

Yn dilyn yr etholiad hanesyddol ar gyfer Senedd Cymru, daeth un peth yn gwbl eglur: Wedi'r holl ddegawdau o ymgyrchu, os na ddaw gweithredu cadarn yn ystod y tymor seneddol hwn, bydd hi'n dywyll iawn o ran dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg.

Dyma'r cyfle i droi'r llanw dros y Gymraeg lle bu pwysau enfawr yn ein herbyn – fel y farchnad dai'n atal ein pobl rhag cael cartrefi, datblygiadau economaidd a oedd yn chwalu cymunedau yn lle eu cynnal, trefn addysg bellach ac uwch Saesneg, dim hawl i fyw ein bywydau'n llawn trwy gyfrwng y Gymraeg, byd digidol Saesneg ac yn y blaen.

Dewch i Borthmadog brynhawn Sadwrn 4/7 i gyhoeddi Galwad i Weithredu i'r llywodraeth newydd.
Gallwn ni fod o help i'r llywodraeth newydd trwy ddod yn dorf i Port i ddangos fod galwad cyhoeddus am weithredu.

Pob digwyddiad