Sesiwn i Aelodau Newydd

Cartref > Digwyddiadau > Sesiwn i Aelodau Newydd

Sesiwn i Aelodau Newydd

6:00, nos Fercher, 14 Hydref

Cyfarfod dros Zoom

Mae nifer o aelodau newydd wedi ymuno â Chymdeithas yr Iaith dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rydym yn chwilio o hyd am aelodau brwdfrydig i ddod yn rhan o’n gwaith, boed hynny gyda’n grwpiau ymgyrchu, trwy ddylunio, cyfieithu, creu nwyddau neu unrhyw ffordd arall. Yn y cyfarfod hwn - sy'n agored i aelodau hen a newydd - bydd Owain Meirion, ein Cadeirydd Cenedlaethol, a Bethan Williams, ein Swyddog Ymgyrchoedd, yn trafod hanes Cymdeithas yr Iaith, sut mae’r mudiad yn ymgyrchu heddiw ac yn bwysicaf oll y gwahanol ffyrdd y gallwch chi ddod yn rhan o’n gwaith.

Sesiwn anffurfiol fydd hwn, dim mwy nag awr o hyd gyda chyfle i ofyn cwestiynau a thrafod os ydych yn dymuno, neu i ddiffodd eich camera a gwrando os taw dyna sydd orau i chi.

Os hoffech sgwrs anffurfiol o flaen llaw neu ddolen i ymuno â'r cyfarfod, ebostiwch Bethan Williams. 

Pob digwyddiad