Troi'r Llanw dros y Gymraeg
Cartref > Digwyddiadau > Troi'r Llanw dros y Gymraeg
Troi'r Llanw dros y Gymraeg
2.30, dydd Gwener, 7 Awst
Pabell y Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod y Garreg Las
Wedi'r holl ddegawdau o ymgyrchu, rhaid cael gweithredu cadarn dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn ystod tymor y Senedd hon. Ydy'r Llywodraeth a Senedd Cymru wedi dechrau gweithredu?
Marchnad dai sy'n atal pobl rhag cael cartrefi, datblygiadau economaidd sy'n chwalu cymunedau yn lle eu cynnal, trefn ysgolion ac addysg bellach ac uwch lle rhaid optio mewn ar gyfer y Gymraeg, diffyg hawliau i fyw ein bywydau yn Gymraeg a byd digidol a chyfryngau lle mae cynnwys Cymraeg yn eithriad – o'r diwedd nawr mae cyfle gwirioneddol i droi'r llanw o blaid y Gymraeg.
Er gwaethaf degawdau o ymgyrchu ac aberth, a chefnogaeth gref y cyhoedd, mae llanw uchel yn parhau i fygwth boddi’r Gymraeg a’n cymunedau. Yn wyneb y cyd-destun gwleidyddol newydd, nawr yw’r cyfle i weithredu a chyflwyno’r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
Yn ystod y digwyddiad bydd Siân Howys yn cyhoeddi siarter o alwadau i Lywodraeth Cymru eu gweithredu ar frys a Walis George yn siarad am brif alwadau'r Siarter – am Ddeddf Eiddo ac argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd cyfle hefyd i glywed gan gynrychiolwyr cymunedol fydd yn dweud pam bod angen gweithredu'r Siarter yn eu hardal nhw.
Dewch i sefyll dros eich cymuned.