Y Gymraeg wrth osod tai

Cartref > Digwyddiadau > Y Gymraeg wrth osod tai

Ystyriaeth i’r Gymraeg wrth osod Tai Cymdeithasol – cyngor cyfreithiol newydd

2.30, pnawn Mercher, 5 Awst

Stondin Cymdeithas yr Iaith (rhif 1019-1020), Maes Eisteddfod y Garreg Las

Mae Keith Bush KC wedi darparu cyngor cyfreithiol newydd i Gymdeithas yr Iaith sy'n cadarnhau bod modd cynnwys y gallu i siarad Cymraeg ymysg y ffactorau wrth ddyrannu tai cymdeithasol o fewn cymunedau Cymraeg. Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i weithredu yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol hwn.

Bydd Elin Hywel yn arwain trafodaeth banel gyda Keith Bush KC, Steve Jones, ymgynghorydd ar dai ac adfywio a chyn-brif weithredwr cymdeithas tai Barcud a Tai Ceredigion a Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

Bydd copïau o’r cyngor cyfreithiol ar gael.

Pob digwyddiad