Y Gymraeg ym maes iechyd/gofal

Cartref > Digwyddiadau > Y Gymraeg ym maes iechyd/gofal

Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal

1.00, pnawn Iau, 6 Awst

Stondin Cymdeithas yr Iaith (rhif 1019-1020), Maes Eisteddfod y Garreg Las

Trefnir gan Bwyllgor Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith.

Wrth i weinidogion ein llywodraeth newydd yng Nghymru fynd ati i weithredu eu haddewidion i wella gwasanaethau iechyd, sut fyddan nhw'n sicrhau gofal trwy’r Gymraeg er mwyn gwella profiadau pobl?

Yn ystod y digwyddiad cawn glywed profiadau cleifion o ddau begwn a dau sector hollol wahanol: un teulu sydd wedi derbyn gofal o’r safon uchaf trwy’r Gymraeg mewn ysbyty a theulu arall wnaeth orfod brwydro am wasanaeth Cymraeg yn ei meddygfa leol. Cawn glywed am y rhyddhad a’r rhwystredigaeth a’r effaith a gafodd hyn ar eu profiadau – ac yn wir ar eu hiechyd a lles. 

Beth gallwn ni ddysgu o’r profiadau hyn? Beth sy’n cyfrannu at brofiad da – cynllunio bwriadus, polisïau cadarn neu bethau mwy cyffredin fel tosturi, caredigrwydd, cyfiawnder…? 

Beth sydd angen newid a sut?

Byddwn yn holi’r teuluoedd a bydd cyfle i chithau rannu eich profiad er mwyn i ni fynd â'r alwad am wasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg at Lywodraeth Cymru.

Pob digwyddiad