Ffurflen Enwebu
Cartref > Ffurflen Enwebu
Y Senedd yw'r corff sy'n rheoli gwaith Cymdeithas yr iaith ar lefel genedlaethol, Mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol bob blwyddyn gennych chi yr aelodau.
Mae'r cyfnod enwebu bellach ar agor. Gallwch naill ai gwblhau a dychwelyd y ffurflen bapur a ddaw trwy'r post, neu gallwch gwblhau'r ffurflen hon.
Cyn enwebu unrhyw un a wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, bod y person hwnnw yn aelod o'r Gymdeithas ac yn hapus i dderbyn yr enwebiad. Byddwn ni'n cysylltu â'r unigolion wedyn i weld a ydynt yn derbyn yr enwebiad – ond gorau oll os gallwch chi gynnwys rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost yr unigolion gyda'r enwebiad.
Does dim rhaid rhoi enw wrth ochr pob swydd, a gallwch gynnig mwy nag un enw ar gyfer yr un swydd (ond gofynnir i chi beidio a chynnig mwy na 3 ar gyfer unrhyw un swydd). Mae croeso hefyd i chi enwebu eich hunan am swyddi ar y Senedd. Bydd angen i chi sgrolio lawr i waelod y ffurflen ac yna gwasgu'r botwm 'Cyflwyno' i wneud yn siŵr bod eich enwebiadau yn cael eu cofnodi.
Bydd y cyfnod enwebu yn cau am ganol dydd, dydd Iau, 20 Awst.
Mae croeso i chi gysylltu os am fwy o wybodaeth am y swyddi hyn; maent yn swyddi difyr a diddorol ble gall unigolyn wneud gwahaniaeth mawr i waith y Gymdeithas.
Bydd y pleidleisio yn digwydd yn ein Cyfarfod Cyffredinol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 3 Hydref 2026 yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth.