Achub Y Cymro – galw am gynnydd yn ei grant

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r grant ar gyfer papur wythnosol Y Cymro er mwyn sicrhau ei barhad.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd perchennog Y Cymro, cwmni papurau newydd Tindle, eu bod yn bwriadu gwerthu'r papur erbyn diwedd mis Mehefin. Mae perygl y gallai'r papur ddod i ben os nad ydynt yn dod o hyd i brynwr credadwy

Mewn llythyr at y Cyngor Llyfrau a Gweinidog y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn iddynt ystyried buddsoddi er mwyn i'r papur newydd barhau a datblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Yn y llythyr, dywedodd Carl Morris, llefarydd ar faterion cyfryngau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg "Fel y gwyddoch, fel iaith leiafrifedig, mae cyhoeddiadau Cymraeg yn dibynnu ar gefnogaeth arian gyhoeddus gan fod tueddiadau'r farchnad rydd mor niweidiol i'r iaith.  Mae'r Cymro yn bapur o bwys hanesyddol eithriadol i'r Gymraeg gan iddo ddyddio yn ôl dros 150 o flynyddoedd. Yn ogystal, ac yn bwysicach, mae ei fodolaeth yn bwysig i ddefnydd, statws a gwelededd y Gymraeg heddiw: mae'n rhaid i'r iaith gael ei chyhoeddi mewn papurau newydd os yw hi i ffynnu. Gwyddom yn iawn fod darpariaeth ddigidol yn werthfawr iawn i'r Gymraeg, ond mae angen darpariaeth argraffedig yn ogystal, a hynny gan fwy nag un darparwr. Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar sawl ffynhonnell newyddion.   

"Credwn fod achos cryf dros gynyddu'n sylweddol y gefnogaeth ariannol i'r Cymro fel bod modd diwygio a buddsoddi i ddatblygu'r papur a'i wefan ymhellach, gan gydweithio gydag eraill lle bo'n bosibl." 

Ychwanegodd Carl Morris:  "Mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg, yn lle ein bod yn gorfod dibynnu ar un neu ddau ddarparwr. Yn nhermau darlledu cenedlaethol, y BBC yw'r unig ddarparydd newyddion Cymraeg ac mae hynny'n peryglu democratiaeth. Mae angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes rhagor o ganoli yn digwydd."

Yn y wasg:

BBC Cymru Fyw

Golwg360