Gweithredu addewidion y Cytundeb Cydweithio yn greiddiol i’r Gymraeg a’n cymunedau

Gyda deunaw mis ar ôl o gyfnod y Cytundeb Cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi pwysleisio bod angen prysuro os am gyflawni addewidion y cytundeb.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae nifer o bethau canmoladwy yn y Cytundeb Cydweithio fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'r Gymraeg ac i'n cymunedau, ond eu gweithredu yw'r peth creiddiol i hynny.
"Mae Papur Gwyn ar fil Addysg Gymraeg wedi ei gyhoeddi, er yn hwyrach na'r disgwyl, a byddwn ni'n pwyso i'w gryfhau er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, nid dim ond y 50% mae'r Llywodraeth yn anelu ato ar hyn o bryd.
"Gydag ond deunaw mis i fynd mae'n bryd symud o ddifri ar Ddeddf Eiddo, dyma'r cyfle i ddiogelu'n cymunedau. Mae'r angen yn gwbl glir yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad, a dyhead am reoleiddio'r farchnad fel bod prisiau tai o fewn cyrraedd pobl ar gyflog lleol a rhoi tai yn nwylo cymunedau yn amlwg ar draws Cymru."