‘Addysg Gymraeg i Bawb yw’r unig ateb’ – Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg amgen

Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb heddiw - ar yr un diwrnod ag y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig. 

Mae'r Ddeddf Addysg i'w gweld yma

Fe wnaethon ni lansio ein Deddf Addysg Gymraeg ddrafft yn haf 2022, ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori a thrafod mae’r ddeddf derfynol wedi ei chyhoeddi.

Mae’r prif fesurau yn Neddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith yn cynnwys:

  • Gosod nod statudol ar wyneb y ddeddfwriaeth o sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn 1 Medi 2050, fyddai’n golygu y bydd pob plentyn yn cael addysg cyfrwng Cymraeg;
  • Symud pob ysgol dros amser ar hyd y continwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg;
  • Disodli Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda thargedau interim statudol cenedlaethol a lleol, yn gysylltiedig â fformiwla ariannu newydd gyda chymelliannnau refeniw a chyfalaf;
  • Gosod targedau statudol o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg, trwy hyfforddiant cychwynnol a rhaglenni hyfforddiant mewn swydd;
  • Sefydlu un llwybr dysgu ac un cymhwyster Cymraeg go iawn yn hytrach na pharhad y system ddeuol Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.

Dywedodd Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’n Deddf Addysg Gymraeg ni yn benllanw bron i ddegawd o waith polisi manwl ac ymgyrchu bwriadus, sydd wedi newid disgwyliadau pobl am yr hyn sydd ei angen yn ein system addysg. Mae'r Llywodraeth bellach yn dweud y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg, ond os ydyn nhw o ddifri am hynny, symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yw'r unig ffordd o gyflawni'r nod. Mae’n Deddf ni'n cynnig cynllun manwl, cyraeddadwy sy’n barod i fynd. Gofynnwn i’r Llywodraeth ei mabwysiadu."

Ychwanegodd Mabli Siriol Jones:
“Mae’r papur gwyn yn gam pwysig ymlaen, ac yn dangos bod y Llywodraeth yn derbyn bod angen trawsnewid ein system addysg. Ond dim ond man cychwyn yw'r papur gwyn ac rydyn ni’n deall nad yw'r cynigion ar hyn o bryd yn gosod targedau statudol cadarn fydd yn sicrhau bod pob plentyn yn tyfu lan yn siaradwr Cymraeg hyderus.
“Mae peryg bod y targedau sydd ynddo yn rhy isel, y nod yn rhy amwys, a’r camau gweithredu yn annigonol. Rhaid sicrhau bod y Ddeddf derfynol yn cynnwys targedau statudol uchelgeisiol o ran datblygu’r gweithlu addysg Gymraeg a chynyddu nifer y plant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg; a bod sefydlu un continwwm ac un cymhwyster Cymraeg yn y ddeddfwriaeth.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob plentyn yng Nghymru, o ba bynnag gefndir. Rydyn ni’n credu bod angen system sy’n sicrhau cyfiawnder addysgol i bob plentyn, a rhoi diwedd ar y rhaniadau artiffisial yn ein hysgolion. Addysg Gymraeg i bawb yw’r unig ateb.”

Wrth ymateb i gynigion Cymdeithas yr Iaith, dywedodd David Thomas, Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2021:

“Mae dysgu Cymraeg wedi trawsnewid fy mywyd. Ond dw i’n difaru’r blynyddoedd pan doeddwn i ddim yn siarad yr iaith a ddim yn ymwybodol o’r manteision o fod yn wirioneddol ddwyieithog. A dw i’n ffaelu dychmygu pam fel cymdeithas ni’n gwrthod y cyfleoedd i bob un plentyn sy’n cael eu magu yng Nghymru heddi i dyfu lan yn siarad Cymraeg. Mae angen ewyllys gwleidyddol i gymryd y camau amlwg i ddod yn genedl wirioneddol ddwyieithog, yn lle gwlad â dwy iaith.”