Croesawu cyfle i ailystyried dyfodol Ysgol Abersoch

Rydym yn croesawu'r ffaith fod penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i gau Ysgol Abersoch wedi cael ei alw i mewn am ystyriaeth gan Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r Cyngor Sir a fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf (21 Hydref 2021).

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Addysg y Gymdeithas:

"Croesawn yn fawr y bydd cyfle i ailedrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch. Ein gobaith yw y bydd y Cyngor yn awr yn gweld dyfodol yr ysgol yng nghyd-destun adfeddiannu ac adfywio'r gymuned leol. Gofynnwn i'r Pwyllgor Craffu wahodd cynrychiolwyr o blith llywodraethwyr yr ysgol i'w hannerch am eu cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol yr ysgol, a gofynnwn i'r Pwyllgor argymell fod y Cabinet yn ailystyried cydweithio gyda'r partneriaid lleol brwd hyn yn hytrach na chefnu ar gymuned leol sydd mewn angen."