Anfon cwyn i’r ysgrifennydd addysg dros benderfyniad ysgolion gwledig Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon cwyn ffurfiol at Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru dros benderfyniad Cyngor Ceredigion i barhau gydag ymgynghoriad ar gau tair ysgol wledig Gymraeg yn y sir, gan ddweud bod disgwyl iddi ddatgan bod yr ymgynghoriad yn “annilys.”

Yn y llythyr at Lynne Neagle AS, mae’r mudiad yn honni nad yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau statudol trwy beidio â dilyn cyfarwyddion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n datgan bod rhaid i Awdurdod Lleol ddechrau’r broses â rhagdyb o blaid cadw ysgolion sydd ar ei restr o ysgolion gwledig i’w gwarchod.

Mae ymgynghoriadau eisoes wedi agor ar gau Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr Wylfa yn Y Borth ac Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd yr wythnos hon, a bydd y cyngor yn treulio 28 dydd yn trafod gyda'r Eglwys yng Nghymru ar Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus tebyg arno.

Esboniodd Ffred Ffransis, ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Wrth gyflwyno argraffiad newydd y Cod yn 2018, dywedodd Kirsty Williams, y gweinidog gyda chyfrifoldeb dros addysg ar y pryd, mai dim ond wedi ystyried pob opsiwn amgen y dylai Cyngor Lleol gynnig cau ysgol wledig ar y rhestr.

“Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith fis diwethaf, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Addysg bresennol, Lynne Neagle AS, y dylai hon fod yn broses gydwybodol gan Awdurdodau Lleol, nid "ticio blychau yn unig", ac ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth bod "rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig."

Ychwanegodd Mr Ffransis:

"Ond mae Cyngor Ceredigion wedi gweithredu'n hollol groes i hyn. Yn Ionawr a Chwefror eleni, penderfynodd y Cyngor anelu at darged o £335k o arbedion yn eu cyllideb gyffredinol trwy gau nifer o ysgolion. Mae hyn yn gyfystyr â rhagdyb ymarferol o blaid cau ysgolion gwledig, nid rhagdyb yn erbyn.

“Cred y Cyngor y gall gyflawni ei ddyletswyddau statudol i ystyried pob opsiwn arall trwy gyfeirio at rai opsiynau amgen ac ailadrodd brawddegau generig i'w gwrthod ar gyfer pob un o’r pedwar ysgol a gofyn i bobl ymateb gydag unrhyw opsiynau eraill. Ond mae'r Cod yn dweud yn bendant "Mae'r gyfraith achosion wedi pennu y dylai'r broses ymgynghorol gael ei chynnal pan fydd cynigion yn dal ar gam ffurfiannol", nid ar ôl i'r Cyngor gynnig cau'r ysgolion. Dyma'r gyfraith, a dyma'r gyntaf o bedair egwyddor y mae'r Cod yn dweud fod yn rhaid i Awdurdodau Lleol eu dilyn.

"O ganlyniad i'n cwyn, disgwyliwn i'r Ysgrifennydd Addysg ddatgan fod yr ymgynghoriad yn annilys, neu bydd yn gwneud yr egwyddor o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn ddiystyr. Eto i gyd, mae'n bwysig fod llywodraethwyr, rhieni a chymunedau lleol yn ymateb i'r papurau ymgynghorol er mwyn cywiro’r ffeithiau a dangos pa mor bwysig yw'r ysgolion iddynt ac i gynnal cymunedau gwledig Cymraeg"

Er bod y Cyngor wedi anfon gwahoddiad i ymateb i’r ymgynghoriad i sefydliadau penodol, nid yw wedi ei gynnwys ar dudalen ymgynghori’r cyngor.