Angen rhoi Senedd Cymru o dan Safonau’r Gymraeg

2026-07-16

Cartref > Newyddion > Angen rhoi Senedd Cymru o dan Safonau’r Gymraeg

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol Senedd Cymru ar weithrediad ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2025-26, sy’n dangos bod y Senedd wedi “gwneud penderfyniad” i beidio â chydymffurfio ag elfennau o’r cynllun, mae'n amlwg bod angen i Senedd Cymru ddod o dan Safonau’r Gymraeg.

Meddai llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Aled Thomas:
“Y cadarnhad fod y corff sy’n darparu gwasanaethau i’n Senedd genedlaethol wedi gwneud penderfyniad bwriadus i beidio cydymffurfio â’i Gynllun Ieithoedd Swyddogol statudol yn y Senedd ddiwethaf yw’r prawf diweddaraf nad yw trefniadau unigryw’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol yn addas i’r diben. Fyddai dim un corff o dan safonau’r Gymraeg – fel y mae gweddill ein sector cyhoeddus – wedi gallu ymddwyn yn y ffordd yma heb y modd i’w dwyn i gyfrif.

“Byddwn yn ceisio cyfarfod ar frys gyda Llywydd y Senedd i gael cadarnhad o amserlen a chamau nesaf yr adolygiad o’r fframwaith cyfreithiol – adolygiad y mae’n rhaid iddo arwain at osod y Senedd o dan Safonau a Mesur y Gymraeg 2011, gan sefydlu hawliau mae modd eu gorfodi.

“Byddwn hefyd yn ysgrifennu at y Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg yn gofyn iddynt sefydlu pa wleidydd neu wleidyddion wnaeth gymryd y penderfyniad i roi’r gorau i gydymffurfio â’r gyfraith, ac i gynnal ymchwiliad seneddol ar fyrder i bob agwedd ar y Gymraeg o fewn ein deddfwrfa genedlaethol ar lun y gwaith a wnaed ar Senedd sy’n gyfeillgar i deuluoedd cyn yr etholiad.”


Mae Adroddiad Blynyddol Cynllun Ieithoedd Swyddog y Senedd 2025-26 i'w weld yma: https://dogfennauaosodwyd.senedd.cymru/gen-ld18121-cy.pdf

Pob newyddion