Apêl am beidio â mynd at ymgynghoriad

2026-10-09

Cartref > Newyddion > Apêl am beidio â mynd at ymgynghoriad

Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cynghori'r tair ysgol bentrefol yng Nghwm Gwendraeth ac Ysgol Blaenau ger Llandybie i bwyso'n syth ar y Pwyllgor Craffu Addysg fore Mawrth (13 Hydref) i argymell i'r Cabinet - a fydd yn cwrdd ar 2 Tachwedd - i beidio ag awdurdodi ymgynghoriad statudol ar y cynigion i gau'r pedair ysgol ar ddiwedd 2017.

Ar ran aelodau Rhanbarth Caerfyrddin, Cymdeithas yr Iaith, esbonia Ffred Ffransis:

“Yn ôl y Cod Trefniadaeth Ysgolion, ni ddylai Cabinet gymeradwyo ymgynghoriad ar gynnig oni bai eu bod yn sicr mai dyma'r ateb gorau i ateb yr heriau. Yn aml bydd camarwain y cyhoedd mai dim ond ymarferiad i gasglu barn ac unrhyw ffeithiau presennol yw ymgynghoriad. Ond mewn gwirionedd y cam cyntaf tuag at gau ysgol yw awdurdodi ymgynghoriad. Er bod y broses yn hir, ni fydd ymgynghoriad byth yn newid cynnig gwreiddiol heblaw am fod problem gyllidol neu gyfreithiol yn codi.

“Trwy gynnig cau pedair ysgol bentrefol arall hyd yn oed cyn bod penderfyniad terfynol i gau Ysgol Meidrim (yng Nghyfarfod Cyngor Llawn, 14 Hydref), mae'r Cabinet wedi dangos ei bod ar genhadaeth i gau ysgolion pentref trwy'r sir gan adael ysgolion yn unig yn y trefi ac ambell bentref mawr. Gadewir y pentrefi i ddirywio i fod yn barthau pobl wedi ymddeol a chymudwyr yn unig heb ymdeimlad o gymuned â ffocws Cymraeg. Y Cabinet hwn sy'n gyrru'r broses, a dyna pam mae mor bwysig fod y Pwyllgor Craffu Addysg yn argymell peidio ag awdurdodi ymgynghoriad.”

Ychwanegodd Ffred Ffransis:

“Mae'r swyddogion wedi'u llwytho â'r gwaith o gynhyrchu dogfennau ar gyfer saith o ysgolion o fewn ychydig dros flwyddyn, ac yn eu brys, gwnaed llawer o gamgymeriadau a gadawyd allan opsiynau fel na all y Cabinet fod yn sicr mai cau'r ysgol yw'r cynnig gorau i ymgynghori yn eu cylch.

“Yn gyntaf, nid oes unrhyw ymdrech i amcangyfrif cost gweithredu'r opsiwn amlycaf i Ysgol Bancffosfelen, sef tynnu lawr y gofod dros ben sydd yn bennaf mewn adeilad anniogel fel bod yr ysgol wedyn o faintioli diogel am y dyfodol. Ni roddir chwaith unrhyw amcangyfrif o gost ehangu Ysgol Pontyberem i dderbyn disgyblion anfoddog Bancffosfelen, ac felly amhosibl yw dyfarnu pa un o'r ddau opsiwn sydd rataf.

“Yn ail, torrwyd gair a roddwyd i Ysgolion Carwe a Bancffosfelen fod arian wedi'i neilltuo i drwsio eu hadeiladau eleni. 

“Yn olaf, rhoddir llawer o dudalennau i roi portread o safon yr addysg ym Mancffosfelen trwy ddyfynnu'n helaeth o adroddiad Estyn 2018. Ond mae Estyn newydd wneud arolwg newydd ac yn cyhoeddi'r adroddiad y mis nesaf. Felly erbyn i unrhyw gyfnod ymgynghori ddechrau, byddai'r ddogfen y mae ymgynghori arni ‘heibio ei dyddiad gwerthu’!

“Ni ellir cymryd dyfodol ysgolion a'r cymunedau a wasanaethant mor ysgafn. Rhaid gwrthod cymeradwyaeth i ymgynghori.”

Pob newyddion