Bygythiad i gymunedau gogledd Cymru - Cynhadledd Undydd

cynhadledd-wrecsam-bach.jpgBydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr yfory (10am, Dydd Sadwrn, 25 Medi) yn sgil bygythiadau megis y cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig. (Manylion llawn o'r gynhadledd yma.)Trefnir y gynhadledd Cymunedau Cymreig Cynaliadwy gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam ddydd Sadwrn Medi 25. Ymysg y gwleidyddion sy'n cymryd rhan yn y gynhadledd mae Susan Elan Jones Aelod Seneddol Llafur De Clwyd, Aled Roberts (Democrat Rhyddfrydol) Arweinydd Cyngor Wrecsam, Cynghorydd Wrecsam Marc Jones (Plaid Cymru) a Jake Griffiths o'r Blaid Werdd.Bwriad y gynhadledd, a fydd yn dechrau am 10 o'r gloch y bore, y trafod polisïau a chyfnewid syniadau fydd yn arwain at greu cymunedau Cymreig a Chymraeg cynaliadwy, yn ôl gofynion cymunedau lleol yn hytrach na chwmniau adeiladu.Dywedodd Hywel Griffiths sydd yn arwain ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros gymunedau cynaliadwy:"Ein bwriad yw edrych ar ddwy ardal yn benodol. Byddwn yn edrych ar effaith cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Ddwyrain Cymru ac ardal Wrecsam a'r cyffiniau. Yna fe fyddwn yn edrych ar y sefyllfa yn ardal Penllyn ym Meirionnydd a ddaeth i frig y newyddion yn ddiweddar oherwydd y bwriad i gau Ysgol y Parc. Mae creu cymunedau cynaliadwy, yn amgylcheddol, economaidd ac yn ieithyddol yn holl bwysig. Nid ydym fel cymdeithas eisiau gweld y farchnad rhydd yn rheoli bywydau pobl yn ein gwlad, pobl yn hytrach nag elw dylai fod y flaenoriaeth."

Bydd yna hefyd banel o ymgyrchwyr sydd yn gweithio dros gymunedau Cymreig cynaliadwy yn cymryd rhan, fel Pol Wong o'r Mudiad Deffro'r Ddraig, Ffred Ffransis ac Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith a Roberta Owen o Dreffynnon. Yn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y gwleidyddion a'r ymgyrchwyr fe fydd panel o bobl sydd yn arbenigo ym meysydd cynllunio, yr amgylchedd a chynaliadwyedd.Ychwanegodd Hywel Griffiths:"Ein gobaith yw y bydd y trafodaethau hyn yn arwain at fabwysiadu polisïau goleuedig ym meysydd cynllunio, yr amgylchedd a chynaladwyedd a fydd yn gwarchod, cynnal ac adfywio ein cymunedau." Bydd tocynnau ar gael ar y dydd ym Mhrifysgol Glynd?r a chostio £5 i unigolion a £25 i sefydliadau.