Ceisio am gyfarfod brys gyda’r BBC i drafod toriadau

2026-10-05

Cartref > Newyddion > Ceisio am gyfarfod brys gyda’r BBC i drafod toriadau

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am gyfarfod brys gyda rheolwyr y BBC Cymru i fynnu atebion am doriadau i raglenni.

Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd bod BBC Cymru yn dod â rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar fore Sadwrn a nifer o raglenni eraill Radio Cymru i ben. Bydd hyn yn arwain at dorri 45 o swyddi.

Datgelodd ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar gan Gymdeithas yr Iaith hefyd fod y BBC yn torri’r isafswm statudol o 10 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos i S4C yn ogystal, fel pris am roi gwell "amlygrwydd" i'r Sianel Deledu Gymraeg ar yr iPlayer. 

Mae'r mudiad iaith wedi ysgrifennu at reolwyr y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig i ofyn am gyfarfod brys i drafod eu cynlluniau i dorri ei chynnwys Cymraeg.

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r BBC wedi torri ymddiriedaeth pobl Cymru. Bydd effaith torri gwasanaethau newyddion a materion cyfoes Cymraeg gymaint yn fwy na thorri gwasanaethau Saesneg o’r fath, oherwydd bod digonedd o gyfryngau cyfrwng Saesneg ar gael.”

“Rydym wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r BBC i fynnu atebion am y ffaith fod y Gymraeg yn colli rhagor o dir ar draws y cyfryngau. Byddwn yn galw arnynt i atal gweithredu’r toriadau i raglenni BBC Radio Cymru, swyddi ac unrhyw doriadau eraill sydd ar y gweill i ddarlledu Cymraeg a Chymreig.”

Wythnos diwethaf, lansiodd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i ‘Diogelu Darlledu Cymru’, gan alw am ddiogelu darlledu Cymru, sicrhau dyfodol y Gymraeg ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd, a datganoli darlledu ar frys. 

Ychwanegodd Owain Meirion:

“Ar hyn o bryd, mae ein cyfryngau Cymraeg yn cael eu rheoli gan wleidyddion a darlledwyr mawr yn Llundain. Dydy’r drefn Brydeinig yma ddim yn gyfaill i’r Gymraeg nac i Gymru. Rhaid troi’r llanw a newid tynged y Gymraeg yn y maes darlledu a chyfathrebu. 

“Mae’r bygythiadau hyn yn tanlinellu’n glir yr angen i ddatganoli grymoedd darlledu a chyfathrebu i Gymru ar unwaith, fel bod dyfodol y sector darlledu a chyfathrebu yn atebol i bobl Cymru, a sicrhau bod y Gymraeg ar gael ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd. 

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder a chyflymu’r broses o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, er mwyn gwarchod platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol. Ac yn y cyfamser, galwn ar Lywodraeth San Steffan i ddarparu arian digonol ar gyfer gwasanaethau darlledu cyhoeddus a newyddiadurol yng Nghymru.”

Pob newyddion