Her i'r Cyngor ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad

Mewn cyfarfod agored ar Ionawr 21 gosododd pobl Ceredigion her i Gyngor Ceredigion chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â chwymp ym mhoblogaeth a chanran siaradwyr Cymraeg y sir.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn sgil cyhoeddi cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg y sir ddechrau Rhagfyr 2022. Roedd cynrychiolaeth o fudiadau'r sir, cynghorwyr sir a chymuned ac unigolion yn bresennol yn y cyfarfod; yn eu plith roedd rhai o aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd, Bryan Davies.

Dywedodd Tamsin Davies ar ran rhanbarth Ceredigion:
"Ceredigion welodd y cwymp mwyaf mewn poblogaeth dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae ffigyrau allfudo yn dangos mai pobl ifanc yn bennaf sydd yn gadael y sir.
"
Mae sawl rheswm am hynny - diffyg cyfleoedd gwaith, diffyg tai fforddiadwy a thorri ar wasanaethau. Mae angen i bobl mewn grym, sy'n creu a gosod polisi, gymryd cyfrifoldeb am fynd i'r afael â hyn.
"Roedden ni'n falch felly bod aelodau cabinet y cyngor ac arweinydd y sir yno i glywed ac i gyfrannu."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ceredigion i symud i weinyddu trwy'r Gymraeg, i sicrhau bod plant y sir yn derbyn addysg trwy'r Gymraeg a defnyddio grymoedd newydd i fynd i'r afael ag ail dai a thai gwyliau mewn lle.

Ychwanegodd Tamsin Davies
"Man cychwyn oedd y cyfarfod, a bydd yn sail i ymgyrchoedd y Gymdeithas yn y sir ac yn gyfle i ni weithio gyda chymunedau'r sir i atal cwymp pellach yn nifer y siaradwyr a'r cymunedau Cymraeg.
"Ond rydyn ni wedi gosod her i'r Cyngor Sir hefyd - i ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau'r Cyfrifiad trwy fynd i'r afael â'r materion a godwyd heddiw.
"

Mae lluniau o'r digwyddiad i'w gweld yma