Comisiynydd y Gymraeg i Ymchwilio i Asesiad Effaith Iaith

2026-02-03

Cartref > Newyddion > Comisiynydd y Gymraeg i Ymchwilio i Asesiad Effaith Iaith

Mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi fod Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i gwyn gan y Gymdeithas yn ymwneud â chynnig Cyngor Sir Caerfyrddin i gau Ysgol Llansteffan, a'r diffyg ystyriaeth a roddwyd i'r effeithiau ar y Gymraeg wrth lunio'r polisi hwnnw.

Dywedodd cwyn y Gymdeithas (atodiad 3) "nad yw'r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd statudol i baratoi Asesiad digonol o effaith y cynnig ar yr iaith Gymraeg" gan ei fod "wedi dewis a dethol data'n gyfyngedig i gefnogi ei fwriad i gau'r ysgol yn hytrach nag edrych ar yr holl data a gwneud dadansoddiad gwrthrychol."

Mae cwyn y Gymdeithas ar ddwy sail, sef nad yw'r Cyngor - wrth gynnig cau'r ysgol fis Awst eleni - wedi llawn ystyried:
 
1) “Nid oes capasiti amgen digonol i ddarparu addysg Gymraeg ei chyfrwng i ddisgyblion o'r ardal yn ystod y blynyddoedd nesaf o gau Ysgol Llansteffan ac, yn ymarferol, gorfodir nifer o blant i mewn i addysg gyfrwng Saesneg, ac nid yw'r data a roddir yn dangos hyn yn eglur.”

Esbonia Ffred Ffransis ar ran y Rhanbarth:

"Ni bydd gofod yn ysgolion Cymraeg eraill y cylch ar gyfer holl blant Llansteffan, nac ar gyfer y plant a ddaw i fyw yn y datblygiadau tai newydd. Y dull mwya cost-effeithlon o ddarparu digon o lefydd mewn addysg Gymraeg yn yr ardal yw cadw Ysgol Llansteffan a gwneud gwell ddefnydd o'r adeilad yn unol a chynlluniau cyffrous y llywodraethwyr."
 
2) “Nid oes ymdrafod ystyrlon ar effaith cau'r ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned leol - Ymgyfyngir i ystyried faint o fudiadau sy'n defnyddio'r ysgol heb wneud unrhyw ymdrech i archwilio opsiynau am ddefnyddio'r neuadd fawr yn yr ysgol ar gyfer gweithgareddau Cymraeg.”

Mewn ymateb y mae swyddfa'r Comisiynydd Iaith wedi esbonio ei benderfyniad mewn llythyr at Mr Ffransis:

"Rydym wedi ystyried y gŵyn ac ymateb y Cyngor ac wedi penderfynu cynnal ymchwiliad dan adran 71 Mesur y Gymraeg. Bydd yr ymchwiliad yn penderfynu a yw'r Cyngor wedi cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, ac yn ein galluogi i gymryd camau pellach os oes angen."

Ar ran y Gymdeithas mae Ffred Ffransis yn esbonio arwyddocad y penderfyniad:

"Gall yr ymchwiliad barhau hyd at 3 mis ac atal amserlen i gau'r ysgol. Hyd yn oed petai'r Cyngor yn cytuno i wneud Asesiad Ardrawiad Iaith llawn ac ystyrlon, cymerwn y byddai ymgynghori o'r newydd ar y cynnig i gau'r ysgol os oedd y cynnig gwreiddiol gan Cabinet y Cyngor wedi'i gymryd ar sail anniogel. Byddai unrhyw broses o'r newydd yn gorfod bod yn ôl system ymgynghori llawn gan fod nifer y disgyblion wedi codi yn y cyfamser, ac ni ellir defnyddio'r system gyflym bellach."

Ychwanegodd Mr Ffransis:

"Mae'r un math o wendidau hefyd yn yr Asesiadau Effaith ar y Gymraeg o gau'r ddwy ysgol arall y mae'r cyngor ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i'w cau - sef Ysgol Y Fro ac Ysgol Meidrim. Byddai'n well fod y Cyngor yn cyhoeddi fod atal yr holl broses o fygwth ysgolion gwledig Cymraeg y Sir tan fis Mehefin, a defnyddio'r 4 mis nesaf i siarad yn iawn gyda llywodraethwyr a chymunedau am eu dymuniadau a chynlluniau at y dyfodol - gan greu cynlluniau o'r newydd lle bo angen. Mantais ychwanegol aros tan fis Mehefin fyddai cyfle i weld a fydd llywodraeth newydd yn cynnig mwy o gymorth hefyd i ysgolion gwledig."

Pob newyddion