Croesawu cyfarfod Cabinet Cymraeg cyntaf Llywodraeth Cymru

2026-05-19

Cartref > Newyddion > Croesawu cyfarfod Cabinet Cymraeg cyntaf Llywodraeth Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r ffaith bod y cabinet wedi ei gynnal yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed ac yn “edrych ymlaen” i weld y Llywodraeth yn gweithredu dros y Gymraeg.

Meddai Mirain Owen, Is-gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r ffaith i gyfarfod y cabinet ddoe gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf erioed yn gam pwysig a hanesyddol sy’n rhoi statws i’r iaith ar frig gwaith y Llywodraeth. 

“Rydym yn edrych ymlaen i weld Llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau gweithredu o ddifri dros y Gymraeg. Yn ogystal â’r holl ymrwymiadau yn y Cynllun 100 Diwrnod, rydym yn disgwyl iddynt gyflwyno Deddf Eiddo yn gynnar yn y Senedd fydd yn sicrhau’r hawl i gartref, cyflwyno ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a gweithredu holl argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar frys.

“Mae angen iddynt hefyd fynd ati i sicrhau addysg Gymraeg i bawb, cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob gwasanaeth cyhoeddus a phreifat, a sicrhau lle teilwng i’r iaith ar bob cyfrwng drwy greu system darlledu a chyfathrebu i Gymru. 

“Dyma’r cyfle i droi’r llanw o blaid y Gymraeg a’n cymunedau. Bydd cynrychiolwyr cymunedol o bob rhan o Gymru yn galw ar y llywodraeth newydd i ddefnyddio’r cyfle hwn mewn rali ym Mhorthmadog ar 4 o Orffennaf.”

Pob newyddion