Cyflawni’r targed o 50% mewn addysg cyfrwng Cymraeg
2026-06-16
Cartref > Newyddion > Cyflawni’r targed o 50% mewn addysg cyfrwng Cymraeg
Yn dilyn datganiad Gweinidogol cyntaf y Gweinidog Cabinet newydd dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS, i Aelodau’r Senedd heddiw (16/06), mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen rhaglen radical er mwyn cyflawni’r targed o gyrraedd 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar gyflawni’r nod o 50% o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Yr hyn sydd ei angen yw sicrhau bod targedau’n cael eu cyflawni, buddsoddiad yn y gweithlu ac arweiniad clir.
“Ni fydd Cymdeithas yr Iaith yn hapus tan fod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg, ond fan lleiaf yn y byr dymor rhaid sicrhau bod targed o gyrraedd 50% yn cael ei gyflawni ac nid ei fethu. Gall addysg Gymraeg ar lefel gymunedol fod yn ffordd o sicrhau bod y graffiau yn mynd i'r cyfeiriad cywir am y tro cyntaf ers degawdau, gyda rhaglen radical o blaid y Gymraeg a phobol Cymru.”
Datganiad o flaenoriaethau ar gyfer addysg a gyhoeddodd Anna Brychan AS heddiw, ac fe fydd yn cyhoeddi ei datganiad o flaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg ar y 7fed o Orffennaf.
Ychwanegodd Owain Meirion:
“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddiad pwrpasol a phellgyrhaeddol gan y Gweinidog ar y Gymraeg ar y 7fed o Orffennaf. Mae’n rhaid i’r Gweinidog newydd gyflwyno pennod newydd radical fydd yn cymryd hawl pobol Cymru i'r Gymraeg o ddifrif ac yn cyflawni targedau sy'n gwneud gwahaniaeth real o ddydd i ddydd i bobl yn eu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg a’i ymestyn ar fyrder i weddill y sector breifat a’u gorfodi’n effeithiol, a chyflawni holl argymhellion dau gomisiwn arbenigol ar gymunedau Cymraeg.
“Byddwn yn cynnal rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ ym Mhorthmadog ar y dydd Sadwrn blaenorol er mwyn ategu ein galwadau polisi ac i bwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar unwaith o blaid y Gymraeg a’n cymunedau.”
Cynhelir rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ yn Stadiwm Y Traeth, Porthmadog, ar y 4ydd o Orffennaf am 12yh.