Cyflwyno Gofynion ar gyfer tymor nesa’r Senedd
2026-01-14
Cartref > Newyddion > Cyflwyno Gofynion ar gyfer tymor nesa’r Senedd
Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu prif alwadau ar gyfer tymor nesa’r Senedd i Aelodau’r Senedd mewn sesiwn briffio, Y Gymraeg yn y Senedd Nesaf, heddiw (dydd Mercher, 14 Ionawr). Noddwyd y digwyddiad gan lefarydd y Gymraeg Plaid Cymru, Heledd Fychan AS.
Yn ôl y mudiad, mae eu gweithredu wedi’r etholiad fis Mai eleni yn allweddol er mwyn gwrthdroi’r dirywiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg sydd wedi bod dros y degawdau a sicrhau dyfodol i’r iaith fel un byw, gymunedol.
Ymysg y prif alwadau mae eu hymgyrch dros Ddeddf Eiddo, fyddai’n sefydlu’n gyfreithiol yr Hawl i Dai Digonol, i rymuso cymunedau a sefydlu marchnadoedd tai lleol sy’n rhoi’r cyfle i deuluoedd a phobl ifanc brynu cartrefi yn eu cymunedau eu hunain.
Mae hefyd galwadau gan y Gymdeithas mewn sawl maes polisi arall. Ymysg rhain mae ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, cryfhau hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r iaith ym mhob gwasanaeth cyhoeddus a phreifat, sicrhau lle teilwng i’r iaith yn y cyfryngau a gwasanaethau iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Meddai Sian Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd y Gymdeithas a siaradodd ar ran y mudiad yn ystod y sesiwn:
“Mae consensws gwleidyddol ers blynyddoedd bellach bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae’r dirywiad yn parhau oherwydd diffyg gweithredu digonol.
“Mae ein dogfen Gwneud nid Dweud yn gosod llwybr clir i’r Seithfed Senedd - polisïau ymarferol, mesuradwy a dewr i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Mae’r cyfrifoldeb nawr ar Aelodau’r Senedd i weithredu, nid bodloni ar eiriau yn unig.”