Cyhoeddi rali Troi’r Llanw dros y Gymraeg

2026-04-14

Cartref > Newyddion > Cyhoeddi rali Troi’r Llanw dros y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rali yn yr haf er mwyn rhoi pwysau ar y llywodraeth newydd i weithredu dros gymunedau Cymraeg.

Mae’r mudiad hefyd yn annog pobl Cymru i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf, gyda llai nag wythnos ar ôl tan y dyddiad cau (dydd Llun, 20 Ebrill)

Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali Troi’r Llanw dros y Gymraeg ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf, i bwyso ar y llywodraeth newydd i fynd i’r afael ag effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymraeg trwy gyflwyno Deddf Eiddo.

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Dangosodd y Cyfrifiad diwethaf yn 2021 gwymp unwaith eto yn nifer y siaradwyr Cymraeg, i 17.8% – y ganran isaf erioed. Mae’r gostyngiad yn arbennig o ddifrifol yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith.

“Mae’n rhaid i dymor nesaf Senedd Cymru fod yn drobwynt hanesyddol i’r Gymraeg os yw hi  am barhau fel iaith fyw a chymunedol. Mae angen gweithredu pendant i achub ac adfer ein cymunedau Cymraeg – yn benodol trwy gyflwyno Deddf Eiddo i reoli’r farchnad dai a sicrhau cartrefi i bobl leol. Yn wir, mae’r dirywiad mor sydyn fel na allwn ni wynebu tymor arall o’r Senedd heb weithredu radical.

“Mae hi wrth gwrs yn hanfodol bod pobl yn cofrestru i bleidleisio ac yn mynegi barn yn yr etholiad hollbwysig i ddod, ond nid tic mewn bocs chwaith yw hyd a lled democratiaeth.

“Rydyn ni’n galw ar bobl Cymru i godi eu llais dros ein cymunedau Cymraeg trwy gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd erbyn yr 20fed o Ebrill, ac i fynd gam ymhellach trwy fynychu rali Troi’r Llanw dros y Gymraeg yn yr haf, er mwyn rhoi pwysau ar y llywodraeth newydd i weithredu.”

Cynhelir y rali yn Stadiwm y Traeth, Clwb Pêl-droed Porthmadog, am 2yh ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf.

Pob newyddion