Cyhuddo banc o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r banc NatWest o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg yn dilyn penderfyniad, a ddaeth i'r amlwg heddiw, i gau nifer o ganghennau yn Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi - yn cynnwys Llandysul, Llanybydder, Cei Newydd a Hendy Gwyn ar Daf. Daeth y wybodaeth at gwsmeriaid mewn cylchlythyr uniaith Saesneg gan Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol y NatWest yn yr ardal (Wales and the South West), yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'n hytrach gwasanaethau arlein Saesneg neu Swyddfa'r Post.

Dywed Bethan Williams, swyddog maes y Gymdeithas yn Nyfed

"Mae'n warthus fod banc sydd i bob pwrpas tan berchnogaeth gyhoeddus yn dangos y fath ddirmyg a diffyg ymrwymiad at gynnal ein cymunedau Cymraeg. Bydd swyddi'n cael eu colli a gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid yn cael ei golli gan fod y gwasanaethau ar-lein i gyd yn uniaith Saesneg. Mae’n afreal honni y gall swyddfeydd post gynnal yr holl ystod o wasanaethau bancio, yn enwedig o ystyried fod eu meistri preifat hwythau hefyd yn ceisio eu cau neu eu gwthio i gefn siopau mawr.

Dywed Natwest fod llai o gwsmeriaid yn defnyddio’r canghennau hyn, ond nhw sydd wedi creu'r sefyllfa trwy eu hagor am ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig gan orfodi cwsmeriaid i geisio dulliau amgen o fancio.”

Camau Nesaf

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda Carwyn Jones i ofyn beth fydd e'n ei wneud ynglŷn â 'r bwriad i gau rai o ganghennau NatWest yn Nyffryn Teifi.

“Fe wnaeth Carwyn Jones gyhoeddi fis Mehefin y byddai arian ychwanegol yn cael ei roi i brosiect peilot i wella’r ffordd mae busnesau yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Teifi drwy gymorthfeydd busnes i fusnesau bach a chanolig.

“Rydyn ni wedi gofyn i Carwyn Jones ai geiriau gwag oedd rhain, neu ydi e'n mynd i bwyso ar y banc i beidio cau eu canghennau yn Nyffryn Teifi?”

Ychwanegodd Ms Williams "Mae nifer o'n haelodau am osod cynnig gerbron ein Cyfarfod Cyffredinol y mis nesaf i gychwyn ymgyrch i ddwyn pwysau ar Fanc y NatWest i barchu'r iaith a chymunedau Cymraeg, ac ar wleidyddion i geisio dylanwadu ar y banc sydd wedi'i achub gan drethdalwyr."

Y stori yn  y wasg:

Cymdeithas yn cyhuddo banc o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg - Golwg360

NatWest i gau tair cangen yn y de orllewin - Newyddion Ar-lein BBC