Cyhuddo Cyngor Môn o weithredu’n groes i’w Polisi Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.

Mae Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Môn yn datgan yn glir mai “nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar lafar ac yn ysgrifenedig” ond mae Cynllun Iaith y Cyngor yn gosod nod o “gefnogi ein staff a’n cynghorwyr i gynyddu eu hyder a defnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith".

Yn ôl y Gymdeithas nid yw cynyddu hyder a defnydd yn gydnaws â’r nod o wneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor.

Yn yr un modd, nid yw ieithwedd y nodau, sy'n cyfeirio at "greu mwy o gyfleoedd" neu "gynnig cyfleoedd" yn gydnaws â'r nod hwnnw.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, sydd hefyd yn byw ar Ynys Môn: “Dylai pob polisi a chynllun adlewyrchu polisi iaith y cyngor, a’r nod mai’r Gymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y cyngor felly mae angen newid y nodau i adlewyrchu hynny.

“Mae Cynllun y Cyngor yn enghraifft arall o grwydro oddi wrth y nod bod y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol y cyngor, mae Strategaeth Hybu’r Gymraeg a’r Cynllun Gweithredu atodol hefyd yn crwydro oddi wrth y nod hwnnw.”

Cyfeiriodd Cymdeithas yr Iaith at Strategaeth Hybu’r Gymraeg y Cyngor, sydd yn nodi:
“Fel prif gyflogwr yr ynys mae gennym ddyletswydd i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gweinyddiaeth fewnol ac i ddatblygu sgiliau iaith ein gweithlu.”

Ychwanegodd Robat Idris: “Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw ar awdurdodau lleol, yn y gorllewin yn enwedig, i symud i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd. 

“Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg felly mae modd gweithredu ar hynny.

“Er gwaethaf canlyniadau’r Cyfrifiad sy’n dangos fod yna le i bryderu am y Gymraeg ar Ynys Môn, gwyddom ei bod yn dal yn un o gadarnleoedd yr iaith.  

“Gwyddom hefyd fod yna ewyllys da cyffredinol tuag at yr iaith ar yr Ynys, ac mae hynny’n wir am y Cynghorwyr Sir hefyd. Ond mae angen mwy nag ewyllys da - rhaid dangos mewn ffordd ymarferol fod y Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu drwy weinyddu mewnol y Cyngor drwy’r Gymraeg.  

“Dylid gweld hyn fel cyfle i hybu’r iaith, a dangos fod yr iaith yn berthnasol ac yn bwysig i ni. 

“Hyderwn y bydd y Cyngor yn dangos y penderfyniad angenrheidiol i weithredu ar frys.”