Cyhuddo Cyngor o 'obsesiwn' i gau ysgol

ysgol-parc1234.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod ag "obsesiwn" am gau ysgol wledig mewn pentre lle mae 91% o'r trigolion yn siaradwyr Cymraeg. Mae swyddogion y Cyngor wedi gosod argymhelliad gerbron Bwrdd Cyngor Gwynedd (sy'n cyfarfod Ddydd Mawrth nesaf 26/7) y dylai'r Cyngor nawr cael hyd i £1miliwn o'i arian ei hunan er mwyn ei alluogi i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Y Parc yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio a chyllido'r ad-drefnu am y tro. Argymhellir y dylai'r Cyngor wario o ganlyniad ei arian ei hun i ehangu Ysgol Syr O.M.Edwards yn Llanuwchllyn er mwyn cau Ysgol Y Parc.Dywed y Gymdeithas fod hyn yn gwbl groes i benderfyniad y Cyngor llawn ar ad-drefnu addysg ym Mhenllyn, a'i bod yn warthus fod ymdrech i wthio hyn trwy Fwrdd y Cyngor yn union cyn gwyliau'r haf, yn hytrach na chyfeirio'r mater yn ol am benderfyniad democrataidd yn y Cyngor llawn a allai ystyried yr amgylchiadau newydd.Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Cafodd mwyafrif bach o gynghorwyr Gwynedd eu perswadio fod yn rhaid aberthu Ysgol Y Parc er mwyn denu £10m o fuddsoddiad gan y Llywodraeth, ond mae'r sefyllfa honno wedi newid yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth am ail-gyflwyno ceisiadau ar sail ariannol gwahanol. Cytunodd y cynghorwyr i dalu 25% o gost yr holl ddatblygiad ar gyfer ardal Y Bala, ond byddai unrhyw gais newydd yn golygu talu 50% o'r holl gost ac argymhellir yma fod y Cyngor yn talu 100% o gost ehangu ysgol o'i goffrau ei hun. Nid yw'r Cynghorwyr etholedig wedi pleidleisio dros dim o'r pethau hyn, ac mae'n warthus fod ymdrech i wthio hyn trwy'r Bwrdd Gweithredol heb gyfeirio'r sefyllfa newydd yn ol at y Cyngor llawn."

Ychwanegodd Mr Ffransis:"Dydy o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr ariannol i geisio gwneud rhyw £50,000 o arbedion y flwyddyn trwy wario miliwn o bunnoedd y Cyngor ei hun. Llawer ratach fyddai creu un ysgol ar 2 safle (yn Y Parc ac yn Y Llan) i wasanaethu'r ddwy gymuned. Gellid defnyddio'r arian a arbedid i hyrwyddo ffederasiwn rhwng ysgolion tref Y Bala er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer cais newydd i greu Ysgol Gydol Oes. Mae'r penderfyniad mor annemocrataidd ac mor brin o synnwyr cyffredin fel bod yn rhaid casglu fod gan rai swyddogion obsesiwn am ddilyn eu polisi o gau Ysgol Y Parc, faint bynnag fo'r gost i'r Cyngor."