Cymdeithas yn parhau gyda Protest Thomas Cook

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda'r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor.

Dywed Is-gadeirydd Cyfathrebu'r Gymdeithas, Hedd Gwynfor:"Dyw Cymdeithas yr Iaith ddim yn gweld gwerth yn natganiad sarhaus Thomas Cook na byddant yn cosbi gweithwyr am siarad Cymraeg er eu bod yn dal i ofyn iddynt beidio a defnyddio'r iaith. Mae'n amlwg fod y cwmni'n ceisio osgoi cael eu herlyn o dan y Ddeddf Perthnasau Hiliol, a chredwn ei bod yn warthus fod Bwrdd yr Iaith yn galw hyn 'yn gam ymlaen'.""Byddwn yn cynnal protest tu allan i'w siop ym Mangor am 1pm Dydd Gwener er mwyn annog y cyhoedd i'w cosbi trwy beidio a rhoi busnes iddyn nhw. Dyna fydd yn cael effaith ar gwmni o'r fath yn hytrach na phaned o de gyda Bwrdd yr Iaith. Yr unig ateb yn y pendraw wrth gwrs yw Deddf Iaith Newydd."gwaharddiad-thomas-cook.jpgPoster uchod (PDF)Taflen Thomas Cook (PDF)