Cymdeithas yn ymateb i gynnig y BBC dros S4C

bbc-s4c.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad y BBC am gyllideb a threfniant llywodraethol S4C heddiw.Meddai Adam Jones, llefarydd darlledu'r mudiad iaith:"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd. Rydyn ni wedi ennill consesiwn heddiw, ond dyw'r trafodaethau rhwng darlledwyr tu ôl i ddrysau caeedig heb fod yn ddemocrataidd. Pobl tu allan i Gymru sydd yn penderfynu ar ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg, dyna pam mae'n angenrheidiol bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru."Mae arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru, degau o fudiadau, Archesgob Cymru a degau o filoedd o bobl yn gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd. Rydym wedi ennill y ddadl am yr angen am fformiwla arian mewn statud er mwyn sicrhau bodolaeth ac annibyniaeth S4C, a phob pleidlais Gymreig ar y mater, yn San Steffan ac yn y Cynulliad. Ond dyw'r cynlluniau dal heb ei newid.""Fe fyddwn ni'n ystyried oblygiadau'r cyhoeddiad heddiw yn bellach yn ein cyfarfod Senedd ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, dros bedair blynedd, mae'r llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94%, ac mae BBC heddiw wedi cynnig cwtogiadau i'w cyfraniad hwythau ar ôl 2015."Mae'r BBC wedi amseru ei gyhoeddiad diwrnod cyn pleidlais yn San Steffan ar ddyfodol S4C, mae'n siomedig gweld enghraifft arall o barodrwydd y gorfforaeth i weithredu yn wleidyddol yn hytrach nag yn annibynnol."