Cyngor Rhyddfrydol/Annibynol Ceredigion i wasgu allan unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun ysgolion

addysg-ceredigion.jpgAm 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf. Ymwelodd Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar Addysg) a Bethan Williams (swyddog Maes Dyfed) ag Adran Addysg y Cyngor yn Felinfach i gyflwyno'r copi cyntaf o'r poster hwn (PDF). Bydd y posteri'n cael eu codi nawr ledled y sir i rybuddio pobl o fwriad y Cyngor i wasgu unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog gan gau nifer mawr o ysgolion pentrefol Cymraeg.Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y Cyngor yn cyhoeddi o fewn y pythefnos nesaf gynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog yn Nhregaron a Llandysul gan aberthu dwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y broses - yn cynnwys nifer sydd gyda dros 50 o ddisgyblion ac yn gweithredu fel canolbwynt i gymunedau pentrefol bywiog. Bydd yr ysgolion mawr newydd yn cynnwys plant o 3-19 oed gyda'r bwriad o greu sefydliadau digon sylweddol i gynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddisgyblion 14-19 oed.

Dywed Ffred Ffransis:"Mae'n warthus fod trefn addysg plant bach yn cael ei phenderfynu yn ol gofynion y cwricwlwm i ddisgyblion yn eu harddegau. Mae'r plant bach a'u cymunedau pentrefol yn cael eu cynnig fel wyn i'r lladdfa i Lywodraeth y Cynulliad mewn ymgais i dderbyn cyllid am y datblygiadau ar gyfer disgyblion uwchradd. Bydd y Cyngor yn hawlio y bydd yn arbed tua £200,000 yn y ddwy ardal, ond bydd hyn ar sail anfon plant bach o 5oed o'r pentrefi ar ysgolion heb unrhyw hebryngwyr ac ar sail gwrthod trafnidiaeth i unrhyw rai nad sydd a hawl statudol."YMGYNGHORI ANONESTBydd y Cyngor yn cyhoeddi fod cyfnod ymgynghori am eu cynllun. Ond dywed Mr Ffransis:"Bydd yr ymgynghori'n anonest. Bydd y Cyngor yn honni fod pob opsiwn yn bosibl, ond dim ond yr opsiwn hwn o Ysgolion Ardal sydd wedi derbyn sylw gan swyddogion a'i gostio'n fanwl ac mae'r Cyfarwyddwr yn dweud wrth lywodraethwyr nad oes unrhyw opsiwn arall. Ffars anonest felly fydd ymgynghori. Mewn gwirionedd, mae llawer o opsiynau eraill. Mae nifer o'r ysgolion pentrefol yn hollol hyfyw fel y maent - yn enwedig gyda strategaeth o wneud defnydd cymunedol llawn o'u hadnoddau. Opsiwn arall yw creu ffederasiwn - ar fodel newydd y Cynulliad - rhwng yr Ysgol Uwchradd a'r ysgolion pentrefol o'i chwmpas gan greu'r un fath ar uned addysgol gref ag sydd gan y Cyngor mewn golwg heb amddifadu'r plant a'r pentrefi o'u hysgolion. Mae'n warthus nad yw'r Cyngor wedi rhoi unrhyw sylw manwl i'r opsiynau eraill ac yn bwriadu gwasgu allan unrhyw wrthwynebiad ac aberthu addysg y plant bach a'r cymunedau pentrefol heb hyd yn oed ymchwilio i'r posibiliadau hyn."CYFARFOD GYDA'R GWEINIDOG ADDYSGDywed y Gymdeithas fod perygl y caiff yr un agwedd gwasgu ei fabwysiadu mewn siroedd eraill hefyd. Mae Gwynedd yn adolgu addysg ym Meirionydd, ac mae Ynys Mon yn rhoi opsiynau cyfyngedig iawn i gymunedau lleol am ddyfodol ysgolion. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cytuno i gyfarfod a Chymdeithas yr Iaith y mis nesaf (Mai 18ed) i drafod y pryderon hyn. Dywed Mr Ffransis:"Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ai gwir yw honiad swyddogion Ceredigion a siroedd eraill nad yw ei hadran yn barod i gyllido unrhyw ddatblygiadau heblaw am Ysgolion Ardal canolog. Byddwn yn gofyn iddi beth yw diben cyhoeddi'r holl opsiynau newydd ar gyfer cydweithio rhwng ysgolion os dim ond model Ysgol Ardal ganolog gaiff ei dderbyn. Mae'r ymagwedd gwasgu'n dwyn anfri ar yr holl brosesau ymgynghori."