Cyngor Sir Caerfyrddin i osod esiampl o ran y Gymraeg

Y penwythnos yma bydd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â chynghorwyr o wahanol bleidiau a swyddogion o adran y Prif Weithredwr, i fforwm cyhoeddus a drefnir gan ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith er mwyn trefnu defnydd y cyngor ei hun o'r Gymraeg. Cynhelir y fforwm agored am 09.30 fore Sadwrn yma 21ain Medi yn Llyfrgell Caerfyrddin, a bydd cyfle i'r cyhoedd holi cwestiynau i'r cynghorwyr a chyfrannu at y trafod.

Ar ran Cymdeithas yr Iaith, esboniodd Bethan Williams (ysgrifennydd lleol y Gymdeithas) "Gan mai nod Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn Sir Gâr ( sydd o dan arweiniad y Cyngor) yw gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sir, mae'n bwysig fod y Gymraeg yn dod yn brif iaith y cyngor ei hun. Ymfalchïwn fod yma Gyngor Sir sydd nid yn unig am osod esiampl o ran defnydd y Gymraeg ond hefyd o ran bod yn agored i dderbyn cwestiynau gan y cyhoedd ac yn croesawu pawb i gyfrannu at y trafod"
 

Ymhlith y cyfranwyr at y fforwm bydd Cyng Emlyn Dole (arweinydd y Cyngor), Cyng Peter Hughes-Griffiths (aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg), Cyng Cefin Campbell (Plaid Cymru) a'r Cyng Tina Higgins (Llafur). Bydd swyddogion o adran Prif Weithredwr y Cyngor yn bresennol hefyd, ac fe'i agorir gan y Prifardd Mererid Hopwood.