Nodwn ein siom bod cymaint o'r mesurau yn y Cynllun Tai a Chymunedau Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth heddiw (11/10/2022) yn dal i ddibynnu ar weithredoedd gwirfoddol ac nad yw'r mesurau na'r cyllid yn mynd yn bell o gwbl.
Deddf Eiddo gyflawn sydd ei hangen.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae tipyn o gynnwys y cynllun yn bethau sydd wedi wedi eu cyhoeddi yn barod ond tu hwnt i hynny mae sôn eto am ragor o gamau gwirfoddol yn ardal peilot Dwyfor. Ond dydyn ni ddim yn gweld mesurau presennol yr ardal peilot yn cael eu hymestyn y tu hwnt i'r ardal. Mae angen i sgôp daearyddol a gweithredol unrhyw fesurau i ehangu yn sylweddol os ydyn ni am weld y Gymraeg yn iaith gymunedol, bob dydd mewn cymunedau ym mhob ran o Gymru.
"Mae problemau tai ar draws Cymru a phobl leol yn methu cael cartref yn eu cymunedau am na allant fforddio tŷ ar y farchnad agored na fforddio i renti - gan gynnwys mewn cymunedau nad ydyn nhw'n dwristaidd. Fydd mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi a llety gwyliau ddim yn ddigon yn yr ardaloedd hynny. Yr hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yw Deddf Eiddo gyflawn i reoli'r farchnad agored a grymuso cymunedau lleol ledled Cymru felly."
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Seminar Deddf Eiddo ym Mae Caerdydd ar Hydref 26 i gyflwyno cynigion ar gyfer Deddf Eiddo.
Ychwanegodd Ychwanegodd Robat Idris:
"Rydyn ni'n galw am Ddeddf Eiddo ers yr 80'au. Ers hynny mae problemau tai wedi gwaethygu, ac effaith a dwysedd y broblem wedi dod i amlygrwydd yn fwy diweddar. Byddai Deddf Eiddo llawer yn fwy effeithiol ac yn datrys y broblem dipyn yn fwy sydyn na chynlluniau â'r posibilrwydd o wneud rhywfaint o newid ar y mwyaf. Felly os ydy'r Llywodraeth o ddifrif am roi cyfle teg i deuluoedd a phobl leol i y cwestiwn nawr yw pa fath o Ddeddf Eiddo gawn ni, a phryd?"