Deddf Iaith Gymraeg wan - Anfona neges at y gwleidyddion nawr!

Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drafft o'r Mesur Iaith maen nhw'n debygol o'i basio. Ar ôl ei ddarllen yn fanwl, mae'n glir mai deddf wan fydd hon, ac un sy'n torri'r addewidion a wnaeth Llywodraeth Cymru yn nogfen Cymru'n Un:

  • Ni fydd hawliau cyfreithiol i bobl defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd;
  • Ni fydd statws swyddogol gan y Gymraeg;
  • Ni fydd Comisiynydd Iaith annibynnol;
  • Ni fydd hawl i addysg cyfrwng Cymraeg;
  • Ni fydd hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.

Rydym angen dy help i gryfhau'r mesur, Pwysa yma i lenwi'r ffurflen arlein a fydd yn anfon ebost at wleidyddion y Cynulliad yn galw am fesur iaith gref.Ydy'r gwleidyddion yn cofio Thomas Cook a Morrisons Caergybi? Ydyn nhw'n sylweddoli pa mor anodd yw trio defnyddio'r Gymraeg wrth ddelio gyda nifer helaeth o gyrff cyhoeddus? Yn hynod o sarhaus, yr unig hawl yn y mesur iaith yw hawl i gwmnïau mawrion ceisio osgoi unrhyw ofyniad am wasanaethau Cymraeg. Fodd bynnag, does dim hawl gan yr unigolyn i sicrhau bod nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.Digwyddiadau:Bydd dwy Rali yn cael eu cynnal er mwyn pwyso ar Llywodraeth y Cynulliad i gryfhau'r mesur.Rali Caerdydd - Mai 22ain, 2010 - os hoffet ti helpu mewn unrhyw ffordd, tyrd i gyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent yng Nghlwb y Bont, Pontypridd NOS FAWRTH, EBRILL 27, 7-30PMRali Porthmadog - Mehefin 21, 2010 - os hoffet ti helpu mewn unrhyw ffordd, tyrd i gyfarfod Rhanbarth Gwynedd/Môn ar NOS FAWRTH, EBRILL 27, 7-30PM