Deiseb Diogelu Darlledu Cymru

2026-09-25

Cartref > Newyddion > Deiseb Diogelu Darlledu Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi agor deiseb sydd yn galw:

  • Ar y BBC i atal gweithredu’r toriadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i raglenni BBC Radio Cymru ac i swyddi yng Nghymru, ynghyd ag unrhyw doriadau eraill sydd ar y gweill i ddarlledu Cymraeg a Chymreig.
  • Ar Lywodraeth San Steffan i ddarparu arian digonol ar gyfer gwasanaethau darlledu cyhoeddus a newyddiadurol yng Nghymru hyd nes bydd grymoedd dros ddarlledu a chyfathrebu Cymru yn nwylo pobl Cymru. 
  • Am ddatganoli grymoedd a chyllid dros ddarlledu a chyfathrebu i Gymru yn ddi-oed er mwyn datblygu sector darlledu a chyfryngau sy’n deilwng o ac yn atebol i bobl Cymru, a sicrhau bod y Gymraeg ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd.


Arwyddwch y ddeiseb trwy bwyso yma
 

Pob newyddion