Diddymu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

2025-11-21

Cartref > Newyddion > Diddymu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder bod ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' gan  Gomisiynydd y Gymraeg yn ymarferiad annigonol a bod cefnu ar Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg a arferai gael ei gynnal yr un adeg o'r flwyddyn yn gam cwbl gamarweiniol. 

Lansiwyd Diwrnod Hawliau’r Gymraeg ym mis Rhagfyr 2019, a chafodd ei gynnal yn flynyddol tan 2023. Yn dilyn penodi’r Comisiynydd presennol, cafodd ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg ei lansio yn 2023 yn ei le. Mae hyn er gwaetha'r ffaith fod Mesur y Gymraeg 2011 yn rhoi dyletswydd statudol ar y Comisiynydd i roi sylw i'r "hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r safonau" wrth gynnal ei gwaith.

Yn ôl Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, Aled Thomas:

"Rydyn ni'n hynod bryderus fod Comisiynydd y Gymraeg wedi gollwng yr ymgyrch hawliau, ac yn dilyn trywydd cwbl annigonol gyda Defnyddia dy Gymraeg. Mae’r ymgyrch newydd yn aneffeithiol ac yn gor-symleiddio’r sefyllfa. Mae’n symud y cyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg oddi ar sefydliadau a’i roi ar ysgwyddau siaradwyr Cymraeg. Nid yw'n cydnabod y rhwystrau systemig y mae siaradwyr Cymraeg yn gorfod eu hwynebu, fel methiant sefydliadau i gynnig y Gymraeg mewn modd rhagweithiol,  diffyg gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, ansawdd isradd gwasanaethau a'r ymdrechion ychwanegol sydd rhaid i'r cyhoedd wneud i geisio cael gwasanaethau Cymraeg.

"Mae hyn yn rhan o'r un symudiad o feddalu gan y Comisiynydd sy'n cynnwys gwrthod ymchwilio i gwynion aelodau'r cyhoedd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg. O dan y Comisiynydd presennol, mae canran y cwynion sy’n destun ymchwiliad wedi gostwng i lefelau digynsail a hanesyddol isel: 44% yn 2023-24 a 26% yn y flwyddyn ddiwethaf.  Unwaith yn unig mae'r gair hawl yn ymddangos yn ei chynllun strategol newydd - a hynny wedi'i gladdu yng nghrombil y ddogfen."

Pob newyddion