Digon yw Digon - Cyngor Sir Caerfyrddin

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest o flaen cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu addysg Cyngor Sir Gar i ddangos fod pobl y sir wedi cael digon o agwedd negyddol y Cyngor tuag at ysgolion a chymunedau pentrefol Cymraeg.

Bydd y Pwyllgor Craffu Addysg yn cyfarfod am 10am ar ddydd Llun yr 8ed o Dachwedd yn Siambr & Ystafell Ymgynnull, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, i dderbyn adroddiad fydd yn argymell trafod dyfodol llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, gan gynnwys nifer nad sydd wedi bod ar y rhestr cau o'r blaen.Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar Cymdeithas yr Iaith:

"Ymddengys fod Cyngor Sir Gar bellach yn benderfynol o gael gwared ar y cyfan o'n hysgolion pentrefol Cymraeg. Gall fod ardaloedd gwledig cyfan heb unrhyw ysgol heblaw am ambell ysgol ardal ganolog. Rhaid i ni benderfynu nawr a fydd dyfodol i'n cymunedau gwledig Cymraeg neu a ydyn ni yn mynd i dderbyn ateb biwrocrataidd Cyngor Sir Gar i ganoli popeth."