Dilynwch esiampl yr Alban - Her i Lywodraeth y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.

Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Ar hyn o bryd y mae rhagdyb de-facto o blaid cau ysgolion bach ym mhob man yng Nghymru gydag eithriad posibl Gwynedd ers yr etholiad. Rydyn ni wedi llwyddo i gael Llywodraeth y Cynulliad i osod yr holl amodau cywir yn eu canllawiau newydd ar ad-drefnu ysgolion. Dywedir na bydd y Gweinidog Addysg yn cymeradwyo unrhyw gynllun i gau ysgol heblaw am fod y Cyngor wedi ystyried yr effaith ar addysg y plant, yr effaith ar yr iaith, yr effaith ar y gymuned leol a'r holl opsiynau eraill.""Yn ymarferol fodd bynnag, dim ond un ystyriaeth sy'n cyfri - sef a ellid darparu addysg o dua'r un safon am lai o arian os caeir ysgol. Os bydd yr ateb yn gadarnhaol, yna caiff yr ysgol ei chau. Charade yw mynd trwy'r ystyriaethau eraill. Yn ymarferol y mae rhagdyb o blaid cau ysgolion bach a rhaid i rieni neu lywodraethwyr sefydlu achos eithriadol dros eu cadw.""Mae'n haws gweld a gwerthuso adeilad ysgol newydd na gwerth sicrwydd addysg yn y cynefin a chefnogaeth deuluol a chymunedol i addysg y plentyn. Mae'n llai o drafferth cau ysgol na llunio gydag amynedd ddulliau creadigol o ysgolion yn cydweithio i sicrhau'r un manteision addysgol ac i lunio dulliau dyfeisgar o wneud defnydd o'r ysgol gan y gymuned leol.""Rhagdyb o blaid cau ysgolion bach sy gyda ni ar hyn o bryd ac y mae hyn yn creu diogi ymhlith y gwleidyddion a swyddogion sy'n creu polisi ac anobaith ymhlith rhieni a llywodraethwyr ysgolion bach. Ni byddai rhagdyb o blaid ysgolion bach yn golygu na byddai unrhyw ysgolion yn cau. Ond golygai y byddai'n rhaid i swyddogion a gwleidyddion sydd am amharu ar ysgolion, cymunedau lleol ac addysg y plant sefydlu achos arbennig dros wneud hynny. Byddai dyddiau diogi gweinyddol drosodd."