Dim Gair dros Ysgol Llansteffan
2026-03-04
Cartref > Newyddion > Dim Gair dros Ysgol Llansteffan
Yn dilyn penderfyniad yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Gâr i gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Llansteffan heddiw (04/03/2026) dywedodd Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’r Gymdeithas yn sefyll gyda rhieni Ysgol Llansteffan, sydd wedi eu siomi yn enbyd nad oedd yr un gair o blaid yr ysgol a holl waith caled athrawon a llywodraethwyr yn y siambr. Ac mae'n anhygoel nad oedd cyfeiriad at y ffaith bod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i'r asesiad effaith iaith nac i gynlluniau cyffrous rhieni ar gyfer yr ysgol.
"Nid yn unig bod cau ysgol yn amharu ar addysg plant a thynnu un o brif sefydliadau'r Gymraeg o'r gymuned, ond maen dangos diffyg democrataidd, sy'n gwneud i bobl gwestiynu beth yw pwynt yr holl broses."