Dim gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid, medd Gweinidog

Mae Gweinidog wedi ei beirniadu'n hallt gan ymgyrchwyr iaith am gyhoeddi ei bod yn gwrthod darparu gwersi Cymraeg i ffoaduriaid yn rhad ac am ddim.

Mae ceiswyr lloches yn cael eu gwahardd rhag gweithio, ac yn byw ar £5.39 y diwrnod gan Lywodraeth Prydain, felly nid oes modd iddynt dalu am wersi. Mae Llywodraeth Cymru felly yn ariannu gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim i ffoaduriaid a cheisiwr lloches, ond dydyn nhw ddim yn rhoi'r un hawl i wersi Cymraeg am ddim.

Mewn ymateb i lythyr oddi wrth Gymdeithas yr Iaith, dywed Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, nad yw hi am ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid oherwydd: "Nid ydym am i'r drefn [o ffioedd am wersi Cymraeg] wahaniaethu rhwng unrhyw grwpiau penodol o ddysgwyr." Yn yr un llythyr o ymateb, mae'r Gweinidog hefyd yn gwrthod dechrau llunio polisi ar gyfer estyn yr iaith at fudwyr, syniad a gafodd ei awgrymu gan y mudiad iaith.

Wrth ymateb i lythyr y Gweinidog, meddai Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:

"Rydym yn hynod siomedig bod y Gweinidog wedi gwneud datganiad adweithiol sy'n cyfrannu at allgáu rhai grwpiau o'r Gymraeg, tra ei bod yn honni ei bod yn trin pawb yr un peth. Yn wir, rydyn ni'n collfarnu'n llwyr anwybodaeth y Gweinidog. Dyw hi ddim yn ymddangos ei bod yn ymwybodol o'r ffaith nad yw ceiswyr lloches yn cael gweithio, nac o'r rhwystrau eraill mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at gyrsiau addysg o'r fath. Mae'r polisi presennol sy'n caniatáu codi ffi ar geiswyr lloches i ddysgu Cymraeg yn camwahaniaethu yn eu herbyn nhw. 

"Roedd yn syndod cael ymateb gan Weinidog sy'n dangos diffyg dealltwriaeth mor sylfaenol o gydraddoldeb. Ddylen ni ddim gorfod esbonio nad yw trin pawb yr un ffordd yn arwain at gydraddoldeb pan mae rhai o dan anfantais neu'n wynebu rhwystrau ychwanegol."

"Mae cynllun clodwiw y Llywodraeth i wneud Cymru'n 'Genedl Noddfa' yn nodi y bydd y Llywodraeth yn 'Sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg.' Ond nid yw'n glir pa gamau sydd wedi'u cymryd gan y Llywodraeth hyd yn hyn i wireddu'r amcan yma. Mae gwersi Saesneg ar gyfer y grwpiau yma am ddim, felly does dim amheuaeth na ddylai gwersi Cymraeg fod am ddim hefyd."

Ychwanegodd:

"Mae'r ffoaduriaid sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb i ddefnyddio'r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma ffordd arbennig o gynnwys ffoaduriaid yn ein cymdeithas a gwireddu'r weledigaeth o wneud Cymru'n Genedl Noddfa."