Dim modd ymgeisio i fod yn Aelod o Fwrdd S4C yn Gymraeg

2026-02-05

Cartref > Newyddion > Dim modd ymgeisio i fod yn Aelod o Fwrdd S4C yn Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu pam nad oes modd ymgeisio i fod yn aelod o Fwrdd S4C trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn dweud bod hyn yn rheswm arall i drosglwyddo grymoedd i Gymru reoli ei chyfryngau darlledu ei hun.  

Cyhoeddodd y DCMS - yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig - hysbyseb uniaith Saesneg ar gyfer dau aelod newydd o Fwrdd y Sianel Gymraeg, S4C.

Er bod hysbyseb y DCMS yn nodi bod croeso i bobl ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, fe’i cyflwynwyd ar LinkedIn yn uniaith Saesneg. Ar wefan y Llywodraeth, nid yw’r wybodaeth am y swydd ar gael yn Gymraeg, heblaw am un atodiad ar waelod y dudalen ac nid oes botwm i ddewis Cymraeg ar gyfer ymgeisio

Er bod S4C yn hyrwyddo’r swydd yn Gymraeg ar ei gwefan, i gael rhagor o wybodaeth bwysig rhaid mynd at wefan y DCMS.

Meddai Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol, Cymdeithas yr Iaith:

“Sut fod proses ymgeisio am swydd ar Fwrdd S4C, unig sianel deledu Gymraeg y byd yn uniaith Saesneg? Mae’n anghredadwy fod hyn wedi digwydd. Mae’n dweud y cyfan am ddifaterwch neu ddiffyg dealltwriaeth Llywodraeth Keir Starmer yn San Steffan o’r Gymraeg a darlledu yng Nghymru.

“Mae’n codi’r cwestiwn pam nad yw S4C wedi sicrhau bod y DCMS wybodaeth a’r broses yn Gymraeg - ac oes ganddo lais yn hyn o gwbl. 

“Mae’r hysbyseb swydd a’r broses ymgeisio yn symptom o’r broblem ehangach nad pobl Cymru sydd â rheolaeth dros ein cyfryngau ein hunain. Rydyn ni wedi gweld sawl symptom arall dros y blynyddoedd. Er enghraifft cafodd y Sianel Gymraeg doriad andwyol o 36% i'w chyllideb rhwng 2010 a 2021 mewn termau real.

"Mae’n egwyddor ddemocrataidd hollol sylfaenol bod angen i Gymru gael grymoedd i reoli ei chyfryngau a darlledu ei hun. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan ei fod o blaid datganoli grymoedd a chyllid dros ddatganoli i Gymru ond heb wneud unrhyw beth am hynny, er mai Llywodraeth Lafur sydd mewn grym yn San Steffan. Rydyn ni’n gosod her i lywodraeth nesaf Cymru i weithredu felly.”

Pob newyddion