Dim rhagor o arian i S4C?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i sylwadau gan Brif Weithredwr newydd S4C nad yw'n credu y bydd adolygiad annibynnol o'r sianel yn dod â mwy o incwm i'r darlledwr.

Wrth ymateb i'r sylwadau, meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Byddai'n syfrdanol pe bai'r adolygiad yn dod i'r casgliad nad oes angen rhagor o gyllid ar S4C.  Wedi'r toriadau enfawr a fu dros y blynyddoedd diwethaf, byddai unrhyw gasgliad arall yn rhyfedd tu hwnt. Y dirwasgiad ar ddiwedd y degawd diwethaf oedd y rheswm a gafodd ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r cwtogiadau difrifol, dirwasgiad a ddaeth i ben nifer o flynyddoedd yn ôl bellach. Felly, rydyn ni'n credu y dylai cyllideb ein darlledwr Cymraeg ddychwelyd i'r lefel cyn y dirwasgiad.

"Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.   Ac mae'n glir o arolygon barn bod y rhan helaeth o bobl Cymru yn cefnogi hynny. Mae ein hymchwil ni hefyd yn dangos y byddai modd i Gymru, wedi i ni ddatganoli darlledu, nid yn unig gynyddu gwariant ar ein prif sianel deledu Cymraeg, ond yn ogystal ehangu'r ddarpariaeth i ragor o sianel, gorsafoedd a llwyfannau digidol. Yn wir, byddai'r buddsoddiad mewn darlledu yn llawer uwch nag y mae heddiw - dyna'r budd a ddaw yn sgil datganoli. Fyddai ddim angen i ni fegera am arian o Loegr wedyn."