Mae ymgyrchwyr iaith yn disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ar draws y sir fyddai’n cyfyngu ar ail dai a llety gwyliau a mynd i’r afael gyda’r argyfwng tai yn y sir. Mae galwadau hefyd ar gynghorau eraill i ddilyn eu hesiampl ac ar Lywodraeth Cymru roi cymorth i’r cynghorau hyn.
Fel rhan o becyn o fesurau a gyflwynwyd yn 2021, rhoddodd Llywodraeth Cymru’r gallu i awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4, a fyddai’n gwneud caniatâd cynllunio’n ofynnol cyn troi cartref parhaol yn ail dŷ neu lety gwyliau.
Yn dilyn proses ymgynghori bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ar gyfer y sir ddydd Mawrth nesaf (16 Gorffennaf). Os bydd yn pasio, Cyngor Gwynedd fyddai'r awdurdod lleol cyntaf i gymryd cam o'r fath.
Mewn Adroddiad Cyfiawnhau a gyflwynwyd i’r Cyngor ar ddechrau’r broses ymgynghori, cyfeiriwyd at waith ymchwil oedd yn dangos nad oedd 65.5% o boblogaeth y sir yn gallu fforddio byw ynddo, a bod mesurau a gyflwynwyd hyd yn hyn - megis cynyddu premiwm treth cyngor ar ail dai - ddim yn ddigon ar ben eu hunain.
Yn ôl ffigyrau’r Cyfrifiad diwethaf, cwympodd boblogaeth Gwynedd o 3.7%, a’r gyfran oedd yn siarad Cymraeg o 1%.
Mewn llythyr agored gan Gadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith, Gwyn Siôn Ifan, at Gabinet Cyngor Gwynedd, dywedodd bod “disgwyl” i’r awdurdod “ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ar gael i chi i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yn yr achos hwn, trwy gyflwyno gorchymyn Erthygl 4 ar draws y sir.”
Dywed hefyd ei bod yn allweddol bod Cyngor Gwynedd yn parhau gyda’r polisi er mwyn “dangos y ffordd” a “rhoi arweiniad i weddill Cymru.”
Mae sawl awdurdod lleol arall wedi oedi cyn cyflwyno mesur tebyg. Un o’r rhain yw Cyngor Conwy, a gyfeiriodd at heriau staffio a chost fel rheswm i beidio parhau gyda’r polisi fis Ebrill eleni. Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud bod angen gweld sut mae’r broses yn gweithredu yng Ngwynedd cyn dechrau arni yno; tra bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi blaenoriaethu gwaith ar gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 dros y Cynllun Datblygu Lleol yn ardal y parc.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw sawl gwaith ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth ac arweiniad i Awdurdodau Lleol i gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4, ac wedi ategu’r alwad honno nawr. Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym yn falch o weld Cyngor Gwynedd yn mynd ati gyda’r broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ac hynny ar draws y sir gyfan, ond mae argyfwng tai Cymru’n bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd. Galwn nawr ar awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl yma ar draws eu siroedd nhw.
“Mae’n amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy’n cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir. Beth yw diben y grymoedd newydd yma os na all awdurdodau lleol wneud defnydd ohonyn nhw oherwydd diffyg adnoddau neu arweiniad?”