"Disgwyliadau mawr" o’r llywodraeth nesaf
2026-05-08
Cartref > Newyddion > "Disgwyliadau mawr" o’r llywodraeth nesaf
Wrth i ganlyniadau Etholiad y Senedd ddechrau cael eu cyhoeddi, mae Cymdeithas yr Iaith yn gosod disgwyliadau clir ar y llywodraeth newydd ac yn galw am newid sylweddol o ran y Gymraeg.
Meddai Mirain Owen, Is-gadeirydd Cenedlaethol, Cymdeithas yr Iaith:
“Beth bynnag fydd union batrwm y seddi yn y Senedd pan fydd y canlyniadau i gyd i mewn, mae’n amlwg bod pobl Cymru wedi cael llond bol ar lywodraeth gysglyd sydd heb fod yn ddigon uchelgeisiol wrth weithredu. Mae’r neges yn glir: rhaid i bopeth newid.
“Fel rhan o hynny, mae'n amlwg ym maes y Gymraeg bod angen troi’r llanw ar fyrder, gyda chanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ar ei hisaf erioed. Ers datganoli rydyn ni wedi gweld llawer o eiriau teg ond heb y buddsoddiad a'r gweithredu go iawn i droi'r llanw o blaid yr iaith. Mae pobl Cymru wedi dangos yn glir bod angen newid ac mae cyfle mawr gan y llywodraeth nesaf – dyma’r amser i weithredu.
“Mae hyn yn cynnwys gweithredu holl argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar frys, deddfu’n gynnar yn y Senedd er mwyn sicrhau’r hawl i gartref yn lleol, gosod llwybr tuag at addysg Gymraeg i bawb, a buddsoddi a gweithredu’n llawer mwy uchelgeisiol er mwyn cynyddu defnydd bob dydd o’r iaith a sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”