Disgwyliadau uchel o Weinidog newydd y Gymraeg

2026-06-16

Cartref > Newyddion > Disgwyliadau uchel o Weinidog newydd y Gymraeg

Rhaid i gyfnod Anna Brychan wrth y llyw fod yn "bennod newydd radical" yn ôl ymgyrchwyr iaith

Ar drothwy datganiad Gweinidogol cyntaf y Gweinidog Cabinet newydd dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS, i Aelodau’r Senedd yn ddiweddarach heddiw, mae ymgyrchwyr iaith yn dweud bod disgwyliadau pobl Cymru yn uchel a bod angen “pennod newydd radical” i’r Gymraeg, gan barchu hawliau iaith a dechrau gweithredu o ddifrif i gyflawni targedau.

Disgwylir i’r Gweinidog gyflwyno datganiad “Blaenoriaethau ar gyfer Addysg a’r Gymraeg” i’r Aelodau yn y Siambr oddeutu 3.40 y prynhawn yma. 

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

“Wrth ddechrau yn y swydd, mae’r Gweinidog yn etifeddu grymoedd sylweddol a chynlluniau parod sydd wedi’u hennill yn sgil ymgyrchoedd y blynyddoedd diwethaf – o’r pwer i gyflwyno hawliau iaith newydd ar unwaith ar gwmnïau trydan, nwy a ffonau symudol ariannog; i’r grym i sicrhau bod pob person ifanc yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn sgil Deddf Addysg a’r Gymraeg a basiwyd y llynedd; i gynlluniau i droi’r llanw sy’n achosi tranc ein cymunedau Cymraeg.”

Daw datganiad y Gweinidog ar adeg dyngedfennol i’r Gymraeg. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil annibynnol y Senedd ddadansoddiad o gyflwr ymdrechion yn y maes addysg hyd yn hyn i gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050. Yn ôl y dadansoddiad, mae cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy’r Gymraeg yn “dechrau methu”, ac o’r 42 ysgol yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn 2021 y byddent yn troi’n ysgolion Cymraeg erbyn 2031, dim ond 8 sydd wedi bod drwy’r broses ymgynghori mor belled. 

Mae dau adroddiad manwl y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn aros i gael eu gweithredu ac mae’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg 2011 yn parhau ar ei hanner.

Ychwanegodd Owain Meirion:

“Er ei bod yn etifeddu grymoedd sylweddol, cynlluniau parod a chefnogaeth eang pobl Cymru i’r Gymraeg, mae Anna Brychan hefyd yn etifeddu taflwybr sy’n mynd i’r cyfeiriad hollol anghywir o ran y targed o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg. 

“Etifeddiaeth y Gweinidog yw un lle’r oedd llywodraethau blaenorol yn ddigon parod eu geiriau cynnes, ond yn llai parod i weithredu’r camau angenrheidiol i atal y dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg dros y degawdau diwethaf a sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r iaith, tra’n gweithio yn y cefndir gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wanhau gorfodi ein hawliau.

“Mae pobl y genedl hon wedi aros yn rhy hir i weld ein holl bobl ifanc yn cael dod yn rhugl yn ein hiaith genedlaethol, am hawliau cyflawn i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau ac am gymunedau ffyniannus lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw. Mae’n rhaid i’r Gweinidog newydd gyflwyno pennod newydd radical fydd yn cymryd hawl pobol Cymru i'r Gymraeg o ddifrif ac yn cyflawni targedau sy'n gwneud gwahaniaeth real o ddydd i ddydd i bobl yn eu cymunedau. Yr hyn sydd ei angen yw mwy o fuddsoddiad, mwy o adnoddau, uchelgais wirioneddol a gweithredu’n llawer cyflymach a hyd eithaf y grymoedd sydd ar gael i’r Llywodraeth. Mae’n rhaid i’r Gweinidog hefyd ddatgan ei disgwyliad y bydd y Comisiynydd Iaith yn dychwelyd at ei phriod waith o weithredu a gorfodi’r hawliau a sefydlir gan y Mesur Iaith.

“Edrychwn ymlaen i gydwethio’n adeiladol gyda’r Gweinidog newydd i sicrhau mai’r Llywodraeth hon fydd yn troi’r llanw dros y Gymraeg – yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a’r gweithlu i’w ddarparu, yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg a’i ymestyn ar fyrder i weddill y sector breifat a’u gorfodi’n effeithiol, ac yn cyflawni holl argymhellion dau gomisiwn arbenigol ar gymunedau Cymraeg."

Pob newyddion