“Diwrnod hanesyddol”: ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth
2026-06-09
Cartref > Newyddion > “Diwrnod hanesyddol”: ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad gan Siân Gwenllian, Gweinidog y Cabinet dros Dai, Cynllunio a Llywodraeth Leol, i "gyflwyno cynigion i ddeddfu ar gyfer yr Hawl i Dai Digonol" wrth amlinellu ei blaenoriaethau yn y Senedd y prynhawn yma (Dydd Mawrth, 9 Mehefin).
Roedd ymrwymiadau hefyd i reoli rhenti a deddfu i sicrhau hawl cymunedau i brynu eiddo.
Meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Mae pobl Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau, ac mae ymgyrchwyr wedi bod i’r carchar er mwyn cael cartrefi addas mewn cymunedau Cymraeg ffyniannus, felly mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld gwireddu ymrwymiad y Llywodraeth i ddeddfu ar gyfer yr hawl i gartref a’r hawl gymunedol i brynu.
“Edrychwn ymlaen i gwrdd yn fuan, ac rydym yn ffyddiog y bydd proses gyfranogol o lunio’r polisi fydd yn sail i’r ddeddfwriaeth. Ar ôl aros ac ymgyrchu mor hir amdani, dyma’n cyfle i lunio Deddf Eiddo ar ein telerau ni fel pobl Cymru: un fydd yn ail-osod natur ein system eiddo, yn sicrhau nad yw’r farchnad leol yn cael ei llethu mwyach gan y farchnad rydd, ac yn creu system gynllunio sy’n gweithio o’r gwaelod i fyny, yn diwallu angen lleol ac yn gweithredu o blaid y Gymraeg.”
“Yn ystod rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ ar y pedwerydd o Orffennaf ym Mhorthmadog, bydd cynrychiolwyr o gymunedau ar draws Cymru, gan gynnwys ymgyrchwyr fel Enfys Llwyd, Sioned Elin a Helen Greenwood yn cael munud i ddweud pam bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys dros eu cymuned nhw."