Ffrae gyfreithiol £10,000 dros rybudd parcio uniaith Saesneg yn parhau

Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn ymddangos gerbron llys yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ar ddydd Llun, 13 Mai am iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg, wedi i’r cwmni parcio One Parking Solution ennill apêl i ailgyflwyno’r achos fis Ionawr.

Mae hyn er gwaethaf rhybudd y barnwr, Gareth Humphreys, y dylai’r cwmni ystyried yn ofalus gwerth parhau gydag achos sydd eisoes wedi bod yn “hir, anffodus tu hwnt” ac sydd wedi costio dros £10,000 mewn ffioedd cyfreithiol i’r cwmni parcio hyd yma. 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y llys i ddyfarnu nad yw rhybuddion parcio uniaith Saesneg yn ddigonol fel gwaeth y barnwr Mervyn Jones-Evans mewn achos diweddar yng Nghaernarfon, ac ar y Llywodraeth i ddeddfu i sicrhau bod hawliau siaradwyr y Gymraeg yn y sector breifat yn cael eu parchu. 

Derbyniodd Toni Schiavone yr hysbysiad cosb parcio uniaith Saesneg am beidio talu mewn maes parcio yn Llangrannog ym Medi 2020.

Taflwyd yr achos gwreiddiol ym Mai 2022 o’r llys gan nad oedd cynrychiolydd o’r cwmni parcio yn bresennol, a’r ail yn Awst 2023 oherwydd cyflwynwyd yr achos yn hwyr ac o dan reolau anghywir.

Ar 26 Ionawr eleni, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i erlyn Mr Schiavone, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.

Yn siarad yn y gwrandawiad fis Ionawr, dywedodd Toni Schiavone ei fod wedi derbyn llythyr gyda chostau o £10,156.70 ddiwrnod ynghynt gan One Parking Solution, a bod y cwmni wedi ymddwyn yn “amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar.” Yn ôl gwaith ymchwil Cymdeithas yr Iaith, byddai cyfieithu’r rhybudd i’r Gymraeg wedi costio dim ond £60.

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n siomedig bod One Parking Solution wedi penderfynu ailgyflwyno’r achos hon, ond y gwir reswm bod rhaid i Toni fynd o flaen llys unwaith eto yw am nad yw hawliau pobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’u sicrhau mewn statud. Rydym wedi gweld achosion eraill o hyn yn ddiweddar wrth i HSBC a’r cwmni egni OVO israddio neu ddiddymu eu gwasanaethau Cymraeg, heb unrhyw ymateb cadarn gan ein Llywodraeth.

“Galwn ar ein haelodau a'n cefnogwyr i fod yno ar 13 Mai i gefnogi Toni, ac i fynnu bod yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mhob agwedd o fywyd yn cael ei barchu, a hynny trwy ddeddfwriaeth.”

Ar 30 Ionawr, pleidleisiodd y Llywodraeth yn erbyn cynnig Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru yn y Senedd i osod Safonau’r Gymraeg ar sail statudol ar sefydliadau yn y sector preifat, megis banciau, archfarchnadoedd a meysydd parcio preifat.

Yn ystod y ddadl, cyfeiriodd Siân Gwenllian AS at achos Toni Schiavone fel enghraifft o angen i ddeddfu i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Yn trafod y cwmni parcio, dywedodd: 

“Unwaith eto, mae’r ymateb yn un trahaus a sarhaus.

“Pam mae’n rhaid i siaradwyr Cymraeg barhau i ymgyrchu a mynnu cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg?

“Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd.”

Bydd Toni Schiavone yn y llys yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth am 12.30 ddydd Llun y 13eg o Fai - dewch i gefnogi!